Morgannwg v Swydd Nottingham: Buddugoliaeth arall i Forgannwg!

Y gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd yng Nghastell-nedd yng Nghwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Ar ôl sicrhau dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm agoriadol yng Nghwpan Undydd Metro Bank, mae tîm criced Morgannwg wedi chwarae’r gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31).

Bulb nhw’n herio Swydd Nottingham heddiw, cyn croesawu Sussex i’r cae ddydd Gwener (Awst 2).

Ar ôl trechu Swydd Gaerloyw o 27 rhediad yn eu gêm gyntaf, aeth Morgannwg i’r Oval a churo Surrey o saith wiced dros y penwythnos.

Byddai dwy fuddugoliaeth yr wythnos hon yn eu rhoi nhw mewn lle cryf iawn i gymhwyso o’r grŵp a sicrhau eu lle yn y rowndiau olaf.

Mae’r tîm ar frig pob grŵp yn mynd yn syth i’r rownd gyn-derfynol, tra bo’r ail a’r trydydd yn mynd i gêm ail gyfle am le yn y rownd gyn-derfynol.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y ddwy gêm nesaf yng Nghastell-nedd yr wythnos hon,” medd Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Mae lleoliad mae ein chwaraewyr yn ei adnabod yn dda yn sicr o ddarparu cyfle gwych i ni arddangos sgiliau’r garfan a mwynhau croeso lleol yn fawr iawn.

“Rydyn ni wedi dewis carfan fawr ar gyfer y ddwy gêm, sy’n galluogi llawer o opsiynau i ddod â chydbwysedd i’r tîm ar y cae.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddiddanu ar y cae ac ymgysylltu â’r dorf leol fydd, gobeithio, yn heidio draw i gefnogi tîm Morgannwg.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Nottingham: F Ahmed, H Hameed (capten), J Hayes, J Haynes, B Hutton, L James, S King, R Lord, T Loten, F McCann, M Montgomery, T Moores, L Patterson-White, T Pettman, B Slater

12:28

WICED!

McCann allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Smale oddi ar fowlio Andy Gorvin am 48.

Roedd tipyn o drafod rhwng y dyfarnwyr cyn iddyn nhw roi’r batiwr allan, ac roedd hwnnw’n sefyll yn yr unfan yn aros am y penderfyniad.

Swydd Nottingham 91 am dair.

12:21

Ar ôl 20 pelawd, mae’r ymwelwyr wedi cyrraedd 75 am ddwy. 

Freddie McCann (47 heb fod allan) yn closio at ei hanner canred.

12:00

15 pelawd wedi’u bowlio.

Swydd Nottingham 42 am ddwy.

Freddie McCann 30 heb fod allan.

11:43

Ar ôl deg pelawd, mae Swydd Nottingham yn 23 am ddwy. 

Ar ôl i’r tîm cartref fanteisio ar yr amodau llwydaidd ddechrau’r bore, mae’r haul allan o’r diwedd.

11:25

WICED!

Jack Haynes wedi’i ddal gan y wicedwr Will Smale.

Ail wiced i McIlroy, a phedwerydd batiad di-sgôr y batiwr yn olynol.

Swydd Nottingham yn bump am ddwy ar ôl chwe phelawd.

11:17

Dilynwch bob pelen ar y sgorfwrdd.

11:13

WICED!

Ben Slater wedi’i ddal gan Tom Bevan oddi ar fowlio Jamie McIlroy.

Swydd Nottingham yn bump am un yn y bedwaredd pelawd.

11:00

Dyma ni. Dechrau’r gêm gyntaf o ddwy yng Nghastell-nedd yr wythnos hon

10:43

Tîm Morgannwg

  • Eddie Byrom
  • Will Smale
  • Kiran Carlson (capten)
  • Colin Ingram
  • Billy Root
  • Ben Kellaway
  • Tom Bevan
  • Dan Douthwaite
  • Timm van der Gugten
  • Andy Gorvin
  • Jamie McIlroy

Tîm Swydd Nottingham

  • Ben Slater
  • Freddie McCann
  • Jack Haynes
  • Haseeb Hameed (capten)
  • Matthew Montgomery
  • Lyndon James
  • Tom Moores
  • Liam Patterson-White
  • Brett Hutton
  • Tom Loten
  • Toby Pettman

10:42

Mae Morgannwg wedi galw’n gywir. Swydd Nottingham fydd yn batio.

Newyddion y timau i ddilyn.