Swydd Gaerloyw a Morgannwg yn gyfartal

Y sir Gymreig i gyd allan, a’r wiced olaf wedi cwympo oddi ar belen ola’r ornest yn Cheltenham

Colin Ingramgolwg360

Colin Ingram yn sgorio canred yn erbyn Swydd Gaerwrangon

Sgorfwrdd

Mae Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram ar gyfer eu taith i Cheltenham i herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth.

Y batiwr o Dde Affrica yw prif sgoriwr y sir, gyda 752 o rediadau mewn deg batiad dros chwe gêm, ar gyfartaledd o 94.

Dim ond Ryan Higgins (Middlesex, 867) ac Emilio Gay  (Swydd Northampton, 786) sydd wedi sgorio mwy drwy’r ail adran i gyd.

Ond dyma’r ail gêm yn olynol i Ingram gael ei hepgor, ac mae golwg360 yn deall nad yw e wedi’i anafu.

Yn ôl Morgannwg, mae e’n gorffwys ar hyn o bryd.

Mae’r bowliwr cyflym James Harris hefyd yn gorffwys, tra bod y chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite wedi’i gynnwys yn y garfan.

Gŵyl Griced Cheltenham

Y gêm hon sy’n agor Gŵyl Griced Cheltenham eleni.

Prif hyfforddwr y tîm cartref, Mark Alleyne, oedd cyd-brif hyfforddwr Morgannwg a hyfforddwr cynorthwyol y Tân Cymreig y tymor diwethaf.

Colli oedd hanes Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw herio Swydd Efrog mewn gŵyl arall yn Scarborough.

Mae’r canlyniad hwnnw’n eu gadael nhw’n seithfed, ond dim ond saith pwynt y tu ôl i Swydd Efrog, sy’n drydydd.

Yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Swydd Northampton, mae Morgannwg yn bedwerydd ar 97 pwynt.

Mae Marchant de Lange, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yng ngharfan Swydd Gaerloyw, ac mae Matt Taylor wedi’i gynnwys hefyd.

Ond does dim lle i Chris Dent, Tom Price na Zafar Gohar.

Cheltenham oedd lleoliad y gêm pedwar diwrnod ddiwethaf rhwng y ddau dîm y llynedd, gyda’r gêm yn dod i ben yn gyfartal yn sgil y tywydd.

Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), C Bancroft, J Shaw, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, A Singh Dale, E Middleton, B Charlesworth, O Price, D Goodman, M Hammond, M de Lange

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, E Byrom, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, T van der Gugten, W Smale, T Bevan

18:24

DIWEDD – GOLAU GWAEL

Morgannwg 133 am saith, ar ei hôl hi o 46

18:13

WICED!

Carlson wedi’i bachu hi at Miles Hammond oddi ar fowlio Marchant de Lange am 37.

Morgannwg 125 am saith. Mason Crane yw’r batiwr newydd.

17:52

WICED!

Yn union fel Swydd Gaerloyw bore ’ma, mae Morgannwg mewn trafferth.

Dan Douthwaite allan, wedi’i ddal gan Bracey oddi ar fowlio Webster, ond doedd y batiwr ddim yn hapus â’r penderfyniad.

108 am chwech.

17:33

WICED!

Ail wiced yn y belawd i Webster. Daliad arall i Bracey i waredu Cooke.

Morgannwg 104 am bump.

17:31

WICED!

Northeast wedi’i ddal gan y wicedwr Bracey. Wiced i Beau Webster.

Morgannwg 104 am bedair. Chris Cooke wrth y llain.

16:45

WICED!

Billy Root wedi’i ddal gan y wicedwr Bracey oddi ar fowlio de Lange am 21.

Morgannwg 59 am dair ac yn edrych dipyn yn llai cyfforddus erbyn hyn.

16:33

WICED!

Marnus Labuschagne wedi’i ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Charleswoeth oddi ar fowlio Zaman Akhter am 19.

Morgannwg 57 am ddwy.

16:05

TE, Diwrnod 1 – Morgannwg 48 am un (Swydd Gaerloyw 179 i gyd allan)

15:28

WICED!

Eddie Byrom wedi camergydio at Marchant de Lange ar ochr y goes oddi ar fowlio Matt Taylor.

Morgannwg 24 am un, wrth i Marnus Labuschagne ddod i’r llain.

14:55

Billy Root ac Eddie Byrom sy’n agor y batio i Forgannwg. Tybed sut hwyl gaiff batwyr y sir Gymreig ar y llain hon?