Swydd Gaerloyw a Morgannwg yn gyfartal

Y sir Gymreig i gyd allan, a’r wiced olaf wedi cwympo oddi ar belen ola’r ornest yn Cheltenham

Colin Ingramgolwg360

Colin Ingram yn sgorio canred yn erbyn Swydd Gaerwrangon

Sgorfwrdd

Mae Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram ar gyfer eu taith i Cheltenham i herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth.

Y batiwr o Dde Affrica yw prif sgoriwr y sir, gyda 752 o rediadau mewn deg batiad dros chwe gêm, ar gyfartaledd o 94.

Dim ond Ryan Higgins (Middlesex, 867) ac Emilio Gay  (Swydd Northampton, 786) sydd wedi sgorio mwy drwy’r ail adran i gyd.

Ond dyma’r ail gêm yn olynol i Ingram gael ei hepgor, ac mae golwg360 yn deall nad yw e wedi’i anafu.

Yn ôl Morgannwg, mae e’n gorffwys ar hyn o bryd.

Mae’r bowliwr cyflym James Harris hefyd yn gorffwys, tra bod y chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite wedi’i gynnwys yn y garfan.

Gŵyl Griced Cheltenham

Y gêm hon sy’n agor Gŵyl Griced Cheltenham eleni.

Prif hyfforddwr y tîm cartref, Mark Alleyne, oedd cyd-brif hyfforddwr Morgannwg a hyfforddwr cynorthwyol y Tân Cymreig y tymor diwethaf.

Colli oedd hanes Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw herio Swydd Efrog mewn gŵyl arall yn Scarborough.

Mae’r canlyniad hwnnw’n eu gadael nhw’n seithfed, ond dim ond saith pwynt y tu ôl i Swydd Efrog, sy’n drydydd.

Yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Swydd Northampton, mae Morgannwg yn bedwerydd ar 97 pwynt.

Mae Marchant de Lange, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yng ngharfan Swydd Gaerloyw, ac mae Matt Taylor wedi’i gynnwys hefyd.

Ond does dim lle i Chris Dent, Tom Price na Zafar Gohar.

Cheltenham oedd lleoliad y gêm pedwar diwrnod ddiwethaf rhwng y ddau dîm y llynedd, gyda’r gêm yn dod i ben yn gyfartal yn sgil y tywydd.

Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), C Bancroft, J Shaw, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, A Singh Dale, E Middleton, B Charlesworth, O Price, D Goodman, M Hammond, M de Lange

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, E Byrom, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, T van der Gugten, W Smale, T Bevan

12:57

WICED!

Pedwaredd i van der Gugten wrth fowlio Beau Webster.

Swydd Gaerloyw 86 am saith.

12:54

WICED!

Adferiad bach y tîm cartref wedi dod i ben. 

Miles Hammond allan. Coes o flaen y wiced i Timm van der Gugten am 21.

Swydd Gaerloyw 85 am chwech.

12:23

WICED!

Ail wiced i Douthwaite.

Swydd Gaerloyw wedi colli eu capten Graeme van Buuren, wedi’i ddal gan Cooke.

49 am bump.

12:18

DIWEDDARIAD

Swydd Gaerloyw wedi colli eu pedwaredd wiced.

James Bracey wedi’i fowlio gan Andy Gorvin.

46 am bedair erbyn hyn, ac maen nhw mewn rhywfaint o drafferth.

11:59

WICED!

Ben Charlesworth allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Cooke. Wiced i Dan Douthwaite.

Swydd Gaerloyw 36 am dair.

11:48

DIWEDDARIAD

Morgannwg wedi cipio ail wiced. Cooke a van der Gugten wedi cyfuno unwaith eto i waredu Ollie Price.

Swydd Gaerloyw bellach yn 24 am ddwy yn y deuddegfed pelawd.

11:35

DIWEDDARIAD

Dechrau addawol i Forgannwg.

Swydd Gaerloyw 15 am un ar ôl naw pelawd.

Cameron Bancroft, yr Awstraliad, allan – wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten ym mhelawd gynta’r gêm (yr ail belen).

10:48

Tîm Swydd Gaerloyw: C Bancroft, B Charlesworth, O Price, M Hammond, J Bracey, G van Buuren, B Webster, Zaman Akhter, M Taylor, M de Lange, A Singh Dale

Tîm Morgannwg: E Byrom, B Root, M Labuschagne, K Carlson, S Northeast (capten), C Cooke, D Douthwaite, T van der Gugten, M Crane, A Gorvin, J McIlroy

10:47

Mae Morgannwg wedi galw’n gywir. 

Swydd Gaerloyw fydd yn batio.

Newyddion y timau i ddilyn.