Mae Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram ar gyfer eu taith i Cheltenham i herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth.
Y batiwr o Dde Affrica yw prif sgoriwr y sir, gyda 752 o rediadau mewn deg batiad dros chwe gêm, ar gyfartaledd o 94.
Dim ond Ryan Higgins (Middlesex, 867) ac Emilio Gay (Swydd Northampton, 786) sydd wedi sgorio mwy drwy’r ail adran i gyd.
Ond dyma’r ail gêm yn olynol i Ingram gael ei hepgor, ac mae golwg360 yn deall nad yw e wedi’i anafu.
Yn ôl Morgannwg, mae e’n gorffwys ar hyn o bryd.
Mae’r bowliwr cyflym James Harris hefyd yn gorffwys, tra bod y chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite wedi’i gynnwys yn y garfan.
Gŵyl Griced Cheltenham
Y gêm hon sy’n agor Gŵyl Griced Cheltenham eleni.
Prif hyfforddwr y tîm cartref, Mark Alleyne, oedd cyd-brif hyfforddwr Morgannwg a hyfforddwr cynorthwyol y Tân Cymreig y tymor diwethaf.
Colli oedd hanes Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw herio Swydd Efrog mewn gŵyl arall yn Scarborough.
Mae’r canlyniad hwnnw’n eu gadael nhw’n seithfed, ond dim ond saith pwynt y tu ôl i Swydd Efrog, sy’n drydydd.
Yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Swydd Northampton, mae Morgannwg yn bedwerydd ar 97 pwynt.
Mae Marchant de Lange, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yng ngharfan Swydd Gaerloyw, ac mae Matt Taylor wedi’i gynnwys hefyd.
Ond does dim lle i Chris Dent, Tom Price na Zafar Gohar.
Cheltenham oedd lleoliad y gêm pedwar diwrnod ddiwethaf rhwng y ddau dîm y llynedd, gyda’r gêm yn dod i ben yn gyfartal yn sgil y tywydd.
Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), C Bancroft, J Shaw, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, A Singh Dale, E Middleton, B Charlesworth, O Price, D Goodman, M Hammond, M de Lange
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, E Byrom, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, T van der Gugten, W Smale, T Bevan