Morgannwg v Swydd Northampton: Gêm gyfartal

Ar ôl rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle roedd buddugoliaeth yn bosib, bu’n rhaid i’r sir Gymreig frwydro’n galed i osgoi colli yn niwedd y diwrnod olaf

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 23), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd.

Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm pedwar diwrnod yng nghanol y gemau ugain pelawd.

Bydd y llall oddi cartref yn Cheltenham.

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, wedi colli un, ac wedi cael pum gêm gyfartal.

Dywed Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei bod hi’n “wythnos anodd” wrth iddyn nhw symud o un gystadleuaeth i’r llall, ond eu bod nhw’n awyddus i “achub ar y cyfle” sydd ganddyn nhw yn ail adran y Bencampwriaeth.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, P Shaw, R Weatherall, J White, R Vasconcelos

15:59

Seithfed wiced i Forgannwg.

Lewis McManus â’i droed o flaen y wiced yn erbyn Andy Gorvin am 19, wrth i’r bowliwr lled-gyflym gipio’i ail wiced.

Swydd Northampton bellach yn 195 am saith, gyda thair pelawd i ddod cyn te.

15:45

Swydd Northampton wedi colli eu chweched wiced.

Justin Broad wedi’i ddal yn y slip oddi ar fowlio James Harris am un, a’r bowliwr wedi cipio’i drydedd wiced.

Mae’r ymwelwyr bellach yn 183 am chwech, wrth i Liam Patterson-White ddod i’r llain gyda chwe phelawd a hanner yn weddill cyn te. Byddai wiced arall i Forgannwg yn y cyfnod hwnnw’n fanteisiol ar hyn o bryd.

15:12

Wiced fawr i Forgannwg.

Procter allan am 48, wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Harry Podmore.

Swydd Northampton 165 am bump, a dau fatiwr newydd – Lewis McManus a Justin Broad – wrth y llain. Mae Morgannwg ar y droed flaen unwaith eto.

14:47

Mae Morgannwg wedi torri’r bartneriaeth o 48 rhwng Procter (45 heb fod allan) a Rob Keogh, sydd allan am 28, wedi’i ddal gan Marnus Labuschagne yn y slip. Wiced i Timm van der Gugten.

Swydd Northampton 157 am bedair.

14:34

Swydd Northampton 147 am dair.

Mae Luke Procter (42 heb fod allan) yn clsio at ei hanner canred, wrth i fowlwyr Morgannwg barhau i frwydro am bedwaredd wiced.

Mae Procter a Rob Keogh (21 heb fod allan) wedi adeiladu partneriaeth o 38 hyd yn hyn.

13:47

Dechrau da i’r prynhawn i fowlwyr Morgannwg.

Emilio Gay wedi’i ddal gan Marnus Labuschagne yn y slip oddi ar fowlio Andy Gorvin am 65. Bowlio cywir gan Gorvin hyd yn hyn.

Swydd Northampton 109 am dair.

13:04

CINIO – Swydd Northampton 101 am ddwy.

Bore rhwystredig i fowlwyr Morgannwg.

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, roedd yr ymwelwyr dan rywfaint o bwysau’n gynnar yn eu batiad wrth ganfod eu hunain yn 19 am ddwy, diolch i fowlio cywir James Harris.

Cafodd Ricardo Vasconcelos ei fowlio am saith, cyn i Prithvi Shaw ganfod dwylo diogel y capten Sam Northeast yn y slip am ddau.

Ond er gwaetha’r dechreuad addawol, cymerodd y bowlwyr eu traed oddi ar y sbardun wrth i’r bore fynd yn ei flaen, ac fe alluogodd hynny i Emilio Gay arwain y ffordd gyda hanner canred (58 heb fod allan), wedi’i gefnogi gan ei gapten Luke Procter (25 heb fod allan).

12:57

Hanner canred i Emilio Gay ar drothwy amser cinio oddi ar 83 o belenni, ac mae e wedi chwarae ychydig yn fwy ymosodol ers cyrraedd y garreg filltir.

Swydd Northampton 100 am ddwy.

12:35

Mae Gay (38hfa) a Procter (23hfa) wedi adeiladu partneriaeth dros hanner cant erbyn hyn. Does fawr o bwysau arnyn nhw ar hyn o bryd gan y bowlwyr sy’n cael eu cylchdroi.

12:05

Mae’r Saeson wedi sefydlogi’r batiad rywfaint erbyn hyn.

53 am ddwy. Emilio Gay yn arwain y ffordd, 30 heb fod allan.