Mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 23), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd.
Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm pedwar diwrnod yng nghanol y gemau ugain pelawd.
Bydd y llall oddi cartref yn Cheltenham.
Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, wedi colli un, ac wedi cael pum gêm gyfartal.
Dywed Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei bod hi’n “wythnos anodd” wrth iddyn nhw symud o un gystadleuaeth i’r llall, ond eu bod nhw’n awyddus i “achub ar y cyfle” sydd ganddyn nhw yn ail adran y Bencampwriaeth.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, W Smale, T van der Gugten
Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, P Shaw, R Weatherall, J White, R Vasconcelos
Swydd Northampton 279 i gyd allan. Un pwynt batio i’r ymwelwyr. Pwyntiau bowlio llawn i Forgannwg.
Gus Miller yw’r batiwr olaf allan, wedi’i ddal gan Kiran Carlson. Chwip o ddaliad ar y ffin sgwâr ar yr ochr agored. Wiced i van der Gugten. Yr Iseldirwr a James Harris yn gorffen gyda thair wiced yr un.
Bydd batwyr Morgannwg yn wynebu saith pelawd heno.
Mae Swydd Northampton wedi colli’u nawfed wiced.
Raphy Weatherall yw’r batiwr sydd allan (am 13), wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar belen gan Timm van der Gugten oedd wedi gwyro i ffwrdd o’r batiwr.
Swydd Northampton 260 am naw. Alex Russell, sy’n enedigol o Gasnewydd, yw’r batiwr olaf, ac mae’n ymuno â Gus Miller.
Wrth i fi deipio’r neges ddiwetha’, mae Patterson-White wedi’i ddal gan Eddie Byrom yn sgwâr ar yr ochr agored. Wiced i Gorvin.
Swydd Northampton 232 am wyth.
Dim wicedi hyd yn hyn i Forgannwg ar ddechrau’r sesiwn olaf.
Liam Patterson-White 30 heb fod allan, gyda Gus Miller ben draw’r llain.
Swydd Northampton 232 am saith.
TE – Swydd Northampton 204 am saith
Morgannwg biau’r ail sesiwn, wrth iddyn nhw gipio pum wiced am 103 yn ystod y prynhawn.
Roedd Swydd Northampton yn edrych yn gyfforddus ar ddechrau’r prynhawn, ond maen nhw wedi llithro yn ystod y sesiwn wrth i fowlwyr Morgannwg daro’n ôl dan arweiniad James Harris, sydd wedi cipio tair, gan roi eu hunain ar y droed flaen. Mae’r ymwelwyr 46 rhediad i ffwrdd o’u pwynt batio cyntaf o hyd.
Seithfed wiced i Forgannwg.
Lewis McManus â’i droed o flaen y wiced yn erbyn Andy Gorvin am 19, wrth i’r bowliwr lled-gyflym gipio’i ail wiced.
Swydd Northampton bellach yn 195 am saith, gyda thair pelawd i ddod cyn te.
Swydd Northampton wedi colli eu chweched wiced.
Justin Broad wedi’i ddal yn y slip oddi ar fowlio James Harris am un, a’r bowliwr wedi cipio’i drydedd wiced.
Mae’r ymwelwyr bellach yn 183 am chwech, wrth i Liam Patterson-White ddod i’r llain gyda chwe phelawd a hanner yn weddill cyn te. Byddai wiced arall i Forgannwg yn y cyfnod hwnnw’n fanteisiol ar hyn o bryd.
Wiced fawr i Forgannwg.
Procter allan am 48, wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Harry Podmore.
Swydd Northampton 165 am bump, a dau fatiwr newydd – Lewis McManus a Justin Broad – wrth y llain. Mae Morgannwg ar y droed flaen unwaith eto.
Mae Morgannwg wedi torri’r bartneriaeth o 48 rhwng Procter (45 heb fod allan) a Rob Keogh, sydd allan am 28, wedi’i ddal gan Marnus Labuschagne yn y slip. Wiced i Timm van der Gugten.
Swydd Northampton 157 am bedair.
Swydd Northampton 147 am dair.
Mae Luke Procter (42 heb fod allan) yn clsio at ei hanner canred, wrth i fowlwyr Morgannwg barhau i frwydro am bedwaredd wiced.
Mae Procter a Rob Keogh (21 heb fod allan) wedi adeiladu partneriaeth o 38 hyd yn hyn.