Morgannwg v Swydd Northampton: Gêm gyfartal

Ar ôl rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle roedd buddugoliaeth yn bosib, bu’n rhaid i’r sir Gymreig frwydro’n galed i osgoi colli yn niwedd y diwrnod olaf

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 23), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd.

Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm pedwar diwrnod yng nghanol y gemau ugain pelawd.

Bydd y llall oddi cartref yn Cheltenham.

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, wedi colli un, ac wedi cael pum gêm gyfartal.

Dywed Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei bod hi’n “wythnos anodd” wrth iddyn nhw symud o un gystadleuaeth i’r llall, ond eu bod nhw’n awyddus i “achub ar y cyfle” sydd ganddyn nhw yn ail adran y Bencampwriaeth.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, P Shaw, R Weatherall, J White, R Vasconcelos

18:19

CANLYNIAD

Gêm gyfartal. Er gwaetha’r diweddglo nerfus i Forgannwg, maen nhw wedi llwyddo i oroesi.

Timm van der Gugten 27 heb fod allan, a’r sir Gymreig yn gorffen ar 207 am wyth wrth gwrso 262.

Roedd posibilrwydd y gallai Morgannwg fod wedi cwrso’r fuddugoliaeth ar ddechrau’r diwrnod olaf, ond ar ôl colli cyfres o wicedi allweddol fe wnaethon nhw benderfynu rhoi’r gorau iddi a cheisio sicrhau gêm gyfartal.

Roedd gan Swydd Northampton flaenoriaeth fechan iawn o 25 ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, a hwythau eisoes wedi colli pedair wiced. Ond ar ôl gosod nod o 262 i Forgannwg yn y pen draw, roedd pob canlyniad dal yn bosib.

Aeth Morgannwg amdani yn nechrau’r batiad, gyda Labuschagne yn taro 64, ond aethon nhw wedyn o 136 am ddwy i 207 am wyth gan roi eu hunain ar y droed ôl.

18:10

WICED!

Harry Podmore wedi’i fowlio gan Rob Keogh.

Morgannwg 207 am wyth. Dwy wiced yn weddill, wyth pelen i ddod…

17:47

WICED!

Mason Crane allan, a Morgannwg bellach wedi colli saith wiced. 

Sut maen nhw wedi llwyddo i fynd o sefyllfa lle’r oedd buddugoliaeth ar y gorwel, i fod ar ymyl y dibyn…?

199 am saith. 262 yw’r nod.

17:43

DIWEDDARIAD

Chris Cooke allan, ac mae Morgannwg wedi colli eu chweched wiced ar 196.

66 rhediad i ennill, pedair wiced yn weddill, a 48 pelen i’w goroesi.

17:24

WICED FAWR

Marnus Labuschagne allan am 64. Ergyd lac gan y batiwr, a daliad hawdd i Raphy Weatherall.

Morgannwg 162 am bump. Mae’n bryd i Forgannwg dderbyn y gêm gyfartal nawr, does bosib…

100 i ennill, 78 pelen i ddod.

17:13

DIWEDDARIAD

Mae Morgannwg wedi colli dwy wiced, Sam Northeast a Kiran Carlson.

Maen nhw bellach yn 141 am bedair. Pryd fyddan nhw’n rhoi’r gorau i gwrso os byddan nhw’n parhau i golli wicedi. Mae perygl gwirioneddol y gallen nhw golli fel arall… 

17:03

DIWEDDARIAD

Marnus Labuschagne wedi taro hanner canred, ac mae Morgannwg dros hanner ffordd tuag at y nod gydag wyth wiced yn weddill.

133 am ddwy, yn cwrso 262 i guro Swydd Northampton. 17 pelawd yn weddill.

16:46

DIWEDDARIAD

Ers amser te, mae Morgannwg wedi bod yn mynd amdani, ac maen nhw bellach yn 100 am ddwy.

Marnus Labuschagne 35 heb fod allan.

262 yw’r nod. 22 pelawd arall i ddod.

15:48

TE, DIWRNOD 4 – Morgannwg 30 am un, yn cwrso 262 i ennill.

Eddie Byrom allan oddi ar belen olaf sesiwn y prynhawn, wedi’i ddal gan y wicedwr McManus oddi ar fowlio’r troellwr Rob Keogh.

Dechrau gwael i Forgannwg wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest. Mae unrhyw obaith oedd ganddyn nhw o ennill wedi hen fynd erbyn hyn, ac maen nhw dan bwysau.

15:09

DIWEDDARIAD – Swydd Northampton 472 am wyth wedi cau’r batiad

Yn ystod pelawd ola’r batiad, tarodd Lewis McManus bedair ergyd chwech yn olynol oddi ar fowlio’r troellwr coes Mason Crane. Roedd digwyddiad hanesyddol ar y gorwel am eiliad, ond doedd hi ddim am fod.

McManus heb fod allan ar ddiwedd y batiad ar 168.

262 yw’r nod i Forgannwg, ac mae o leiaf 39 pelawd yn weddill. A fyddan nhw’n mynd amdani, neu’n ceisio achub yr ornest a sicrhau gêm gyfartal? Gawn ni weld yn fuan…