Morgannwg v Swydd Northampton: Gêm gyfartal

Ar ôl rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle roedd buddugoliaeth yn bosib, bu’n rhaid i’r sir Gymreig frwydro’n galed i osgoi colli yn niwedd y diwrnod olaf

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 23), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd.

Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm pedwar diwrnod yng nghanol y gemau ugain pelawd.

Bydd y llall oddi cartref yn Cheltenham.

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, wedi colli un, ac wedi cael pum gêm gyfartal.

Dywed Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei bod hi’n “wythnos anodd” wrth iddyn nhw symud o un gystadleuaeth i’r llall, ond eu bod nhw’n awyddus i “achub ar y cyfle” sydd ganddyn nhw yn ail adran y Bencampwriaeth.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, P Shaw, R Weatherall, J White, R Vasconcelos

17:58

DIWEDDARIAD

Mae Luke Procter wedi cyrraedd ei hanner canred, ond ben draw’r llain mae Ricardo Vasconcelos allan am 99, wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan y troellwr coes Mason Crane.

Mae’r bartneriaeth o 116 wedi rhoi Swydd Northampton, sy’n 211 am dair, yn gyfartal â Morgannwg yn eu hail fatiad. Bydd yn rhaid i Forgannwg fatio eto.

Ail wiced mewn dwy belen i Crane. Rob Keogh allan, wedi’i ddal yn agos at y wiced gan Eddie Byrom.

Swydd Northampton 211 am bedair. Pelen yr hatric i ddod…

Dim hatric!

16:49

TE, Diwrnod 3 – Swydd Northampton 147 am ddwy, ar ei hôl hi o 64 rhediad yn eu hail fatiad.

Dau ddaliad i’r wicedwr Chris Cooke, a wiced yr un i Timm van der Gugten ac Andy Gorvin.

13:04

CINIO, Diwrnod 3 – Swydd Northampton 4 heb golli wiced yn eu hail fatiad.

Morgannwg 490 i gyd allan yn ystod y bore (Mason Crane 56 heb fod allan, 41 i Timm van der Gugten, 40 i James Harris.

Blaenoriaeth batiad cyntaf o 211 gan Forgannwg, sydd bellach ar y blaen o 207. Y sir Gymreig mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd.

18:22

DIWEDD, Diwrnod 2 – Morgannwg 390 am wyth, ar y blaen o 111 yn erbyn Swydd Northampton (279)

Marnus Labuschagne 93, Kiran Carlson 71, Chris Cooke 58

16:42

Daeth cadarnhad heddiw mai Mason Crane (Morgannwg) a Ben Green (Gwlad yr Haf) yw dau hapddewis y Tân Cymreig ar gyfer Can Pelen y dynion eleni.

Kate Coppack a Georgia Davis sydd wedi’u dewis i chwarae i dîm y menywod.

Mae’r Cymro Aneurin Donald wedi’i ddewis i’r Birmingham Phoenix.

15:51

TE, Diwrnod 2 – Morgannwg 268 am bump

Marnus Labuschagne allan am 93, a Kiran Carlson wedi sgorio 71. Mae’r sir Gymreig ar ei hôl hi o 11 rhediad gyda phum wiced yn weddill yn eu batiad cyntaf.

Cyfle o hyd i adeiladu mantais sylweddol.

13:06

CINIO, Diwrnod 2 – Morgannwg 159 am ddwy

Marnus Labuschagne 62 heb fod allan.

Billy Root (41) ac Eddie Byrom allan yn ystod y bore. Wiced yr un i Liam Patterson-White a Justin Broad.

Swydd Northampton ar y blaen o 120 ar hyn o bryd.

18:47

DIWEDD, Diwrnod 1 – Morgannwg 36 heb golli wiced (Swydd Northampton 279 i gyd allan).

Cafodd Morgannwg sesiwn lwyddiannus i orffen y diwrnod cyntaf, wrth iddyn nhw gipio tair wiced olaf Swydd Northampton i’w bowlio nhw allan am 279. Mae sawl llanw a thrai wedi bod yn ystod y dydd, ond y sir Gymreig biau’r diwrnod cyntaf ar y cyfan.

Er gwaethaf cyfraniadau o 65 gan Emilio Gay, 48 gan Luke Procter ac un ymgais arwrol ar y diwedd gan Gus Miller (40), bydd yr ymwelwyr yn ddigon siomedig nad oedden nhw wedi gallu sgorio mwy ar ôl penderfynu batio. Mae’r tywydd a’r llain werdd yn sicr wedi helpu’r bowlwyr heddiw, gyda James Harris, Timm van der Gugten ac Andy Gorvin yn cipio tair wiced yr un. 

Dim ond saith pelawd oedd yn rhaid i Forgannwg eu goroesi ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, ac fe wnaethon nhw hynny’n ddidrafferth.

18:18

Eddie Byrom a Billy Root sy’n agor y batio i Forgannwg.

Raphy Weatherall a Gus Miller i agor y bowlio i Swydd Northampton.

18:09

Swydd Northampton 279 i gyd allan. Un pwynt batio i’r ymwelwyr. Pwyntiau bowlio llawn i Forgannwg.

Gus Miller yw’r batiwr olaf allan, wedi’i ddal gan Kiran Carlson. Chwip o ddaliad ar y ffin sgwâr ar yr ochr agored. Wiced i van der Gugten. Yr Iseldirwr a James Harris yn gorffen gyda thair wiced yr un.

Bydd batwyr Morgannwg yn wynebu saith pelawd heno.