Morgannwg v Swydd Northampton: Gêm gyfartal

Ar ôl rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle roedd buddugoliaeth yn bosib, bu’n rhaid i’r sir Gymreig frwydro’n galed i osgoi colli yn niwedd y diwrnod olaf

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 23), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd.

Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm pedwar diwrnod yng nghanol y gemau ugain pelawd.

Bydd y llall oddi cartref yn Cheltenham.

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, wedi colli un, ac wedi cael pum gêm gyfartal.

Dywed Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei bod hi’n “wythnos anodd” wrth iddyn nhw symud o un gystadleuaeth i’r llall, ond eu bod nhw’n awyddus i “achub ar y cyfle” sydd ganddyn nhw yn ail adran y Bencampwriaeth.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, P Shaw, R Weatherall, J White, R Vasconcelos

17:03

DIWEDDARIAD

Marnus Labuschagne wedi taro hanner canred, ac mae Morgannwg dros hanner ffordd tuag at y nod gydag wyth wiced yn weddill.

133 am ddwy, yn cwrso 262 i guro Swydd Northampton. 17 pelawd yn weddill.

16:46

DIWEDDARIAD

Ers amser te, mae Morgannwg wedi bod yn mynd amdani, ac maen nhw bellach yn 100 am ddwy.

Marnus Labuschagne 35 heb fod allan.

262 yw’r nod. 22 pelawd arall i ddod.

15:48

TE, DIWRNOD 4 – Morgannwg 30 am un, yn cwrso 262 i ennill.

Eddie Byrom allan oddi ar belen olaf sesiwn y prynhawn, wedi’i ddal gan y wicedwr McManus oddi ar fowlio’r troellwr Rob Keogh.

Dechrau gwael i Forgannwg wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest. Mae unrhyw obaith oedd ganddyn nhw o ennill wedi hen fynd erbyn hyn, ac maen nhw dan bwysau.

15:09

DIWEDDARIAD – Swydd Northampton 472 am wyth wedi cau’r batiad

Yn ystod pelawd ola’r batiad, tarodd Lewis McManus bedair ergyd chwech yn olynol oddi ar fowlio’r troellwr coes Mason Crane. Roedd digwyddiad hanesyddol ar y gorwel am eiliad, ond doedd hi ddim am fod.

McManus heb fod allan ar ddiwedd y batiad ar 168.

262 yw’r nod i Forgannwg, ac mae o leiaf 39 pelawd yn weddill. A fyddan nhw’n mynd amdani, neu’n ceisio achub yr ornest a sicrhau gêm gyfartal? Gawn ni weld yn fuan… 

15:03

Lewis McManus wedi cyrraedd ei 150 gyda thair ergyd chwech yn olynol.

Swydd Northampton 457 am wyth, ar y blaen o 252.

14:46

DIWEDDARIAD

Lewis McManus (133 heb fod allan) wedi cyrraedd ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed.

Swydd Northampton 433 am saith, ar y blaen o 222.

Tybed pryd fyddan nhw’n cau’r batiad? Annhebygol erbyn hyn y bydd Morgannwg yn mynd amdani pan ddaw eu hail fatiad. Cyfle da wedi’i golli am fuddugoliaeth ar ôl bod mewn sefyllfa arbennig o gryf ar ddechrau’r diwrnod olaf…

13:04

CINIO, DIWRNOD 4

Swydd Northampton 358 am bedair.

Luke Procter 93 heb fod allan, Lewis McManus 94 heb fod allan.

Mae’r ymwelwyr ar y blaen o 147, sef cyfanswm partneriaeth y ddau fatiwr sydd wrth y llain ar hyn o bryd.

Er eu bod nhw mewn sefyllfa gref ar ddechrau’r diwrnod olaf, mae gobeithion Morgannwg o ennill y gêm hon bellach yn pylu.

Dwy sesiwn i ddod. Y cwestiwn nawr yw a fydd Swydd Northampton yn cau eu batiad ac yn mynd amdani, neu a fyddan nhw’n hapus â gêm gyfartal (fyddai’n ganlyniad siomedig iawn i Forgannwg).

11:53

DIWEDDARIAD

Lewis McManus wedi cyrraedd ei hanner canred, wrth i Swydd Northampton barhau i achosi rhwystredigaeth i Forgannwg ar ddechrau’r diwrnod olaf.

Mae gan yr ymwelwyr flaenoriaeth ail fatiad o 82, sef union faint partneriaeth McManus a Luke Procter i’r Saeson, sy’n 293 am bedair.

19:04

DIWEDD, Diwrnod 3 – Swydd Northampton 236 am bedair, ar y blaen o 25 rhediad.

Mae Morgannwg wedi rhoi Swydd Northampton dan bwysau sylweddol, wrth i’r sir Gymreig glosio at fuddugoliaeth ar ddiwrnod ola’r gêm.

Tarodd Ricardo Vasconcelos 99, ac mae Luke Procter yn dal wrth y llain ar 55, wrth i’r Saeson lwyddo i adeiladu blaenoriaeth fechan gyda chwe wiced yn weddill yn eu hail fatiad.

Daeth dwy wiced y troellwr coes Mason Crane oddi ar belenni olynol.

Yn gynharach yn y dydd, daeth batiad Morgannwg i ben ar 490, yn dilyn 56 heb fod allan Crane gyda’r bat, a chyfraniadau o 41 gan Timm van der Gugten a 40 gan James Harris.

Mae’r fuddugoliaeth yno i’w chipio i Forgannwg, ond wrth i’r llain ddirywio bydd yn rhaid i’r bowlwyr weithio rywfaint yn galetach ar y diwrnod olaf i roi’r gêm a’r canlyniad tu hwnt i bob amheuaeth. Hon fyddai ail fuddugoliaeth y sir Gymreig yn eu wyth gêm agoriadol.

17:58

DIWEDDARIAD

Mae Luke Procter wedi cyrraedd ei hanner canred, ond ben draw’r llain mae Ricardo Vasconcelos allan am 99, wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan y troellwr coes Mason Crane.

Mae’r bartneriaeth o 116 wedi rhoi Swydd Northampton, sy’n 211 am dair, yn gyfartal â Morgannwg yn eu hail fatiad. Bydd yn rhaid i Forgannwg fatio eto.

Ail wiced mewn dwy belen i Crane. Rob Keogh allan, wedi’i ddal yn agos at y wiced gan Eddie Byrom.

Swydd Northampton 211 am bedair. Pelen yr hatric i ddod…

Dim hatric!