Mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 23), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd.
Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm pedwar diwrnod yng nghanol y gemau ugain pelawd.
Bydd y llall oddi cartref yn Cheltenham.
Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, wedi colli un, ac wedi cael pum gêm gyfartal.
Dywed Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei bod hi’n “wythnos anodd” wrth iddyn nhw symud o un gystadleuaeth i’r llall, ond eu bod nhw’n awyddus i “achub ar y cyfle” sydd ganddyn nhw yn ail adran y Bencampwriaeth.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, W Smale, T van der Gugten
Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, P Shaw, R Weatherall, J White, R Vasconcelos
CINIO – Swydd Northampton 101 am ddwy.
Bore rhwystredig i fowlwyr Morgannwg.
Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, roedd yr ymwelwyr dan rywfaint o bwysau’n gynnar yn eu batiad wrth ganfod eu hunain yn 19 am ddwy, diolch i fowlio cywir James Harris.
Cafodd Ricardo Vasconcelos ei fowlio am saith, cyn i Prithvi Shaw ganfod dwylo diogel y capten Sam Northeast yn y slip am ddau.
Ond er gwaetha’r dechreuad addawol, cymerodd y bowlwyr eu traed oddi ar y sbardun wrth i’r bore fynd yn ei flaen, ac fe alluogodd hynny i Emilio Gay arwain y ffordd gyda hanner canred (58 heb fod allan), wedi’i gefnogi gan ei gapten Luke Procter (25 heb fod allan).
Hanner canred i Emilio Gay ar drothwy amser cinio oddi ar 83 o belenni, ac mae e wedi chwarae ychydig yn fwy ymosodol ers cyrraedd y garreg filltir.
Swydd Northampton 100 am ddwy.
Mae Gay (38hfa) a Procter (23hfa) wedi adeiladu partneriaeth dros hanner cant erbyn hyn. Does fawr o bwysau arnyn nhw ar hyn o bryd gan y bowlwyr sy’n cael eu cylchdroi.
Mae’r Saeson wedi sefydlogi’r batiad rywfaint erbyn hyn.
53 am ddwy. Emilio Gay yn arwain y ffordd, 30 heb fod allan.
Dechrau addawol i Forgannwg. Dwy wiced i James Harris.
Vasconcelos a Shaw allan, y naill wedi’i fowlio a’r llall wedi’i ddal yn y slip gan Sam Northeast.
Swydd Northampton 19 am ddwy.
Mae’n niwlog yma yng Nghaerdydd, ddylai fod o gymorth i’r bowlwyr.
Vasconcelos a Gay sy’n agor y batio i’r ymwelwyr.
Harris a van der Gugten yn agor y bowlio i Forgannwg.
Tîm Morgannwg
- Eddie Byrom
- Billy Root
- Marnus Labuschagne
- Kiran Carlson
- Sam Northeast (capten)
- Chris Cooke
- Timm van der Gugten
- James Harris
- Mason Crane
- Andy Gorvin
- Harry Podmore
Tîm Swydd Northampton
- Ricardo Vasconcelos
- Emilio Gay
- Prithvi Shaw
- Luke Procter (capten)
- Rob Keogh
- Lewis McManus
- Justin Broad
- Liam Patterson-White
- Gus Miller
- Raphy Weatherall
- Alex Russell
Mae Swydd Northampton wedi galw’n gywir, a byddan nhw’n batio.
Newyddion y timau i ddilyn.