Buddugoliaeth i Swydd Gaerloyw

Ergyd chwech oddi ar belen ola’r ornest

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn awyddus i daro’n ôl ar ôl crasfa gan Wlad yr Haf yn Taunton y penwythnos diwethaf, wrth iddyn nhw groesawu eu cymdogion Swydd Gaerloyw i Gaerdydd heno (nos Iau, Mehefin 20).

Bydd y ddau dîm yn cystadlu am Dlws Mon Motors ar ddiwedd yr ornest sy’n cael ei hadnabod wrth yr enw ‘Brwydr y Bont’.

Mae Swydd Gaerloyw un pwynt ac un safle uwchlaw Morgannwg yn y tabl, ac mae’r sir Gymreig wedi ennill dwy gêm a cholli tair, gydag un wedi dod i ben heb ganlyniad oherwydd y tywydd.

Daeth y buddugoliaethau yn erbyn Middlesex yn Lord’s a Sussex yng Nghaerdydd.

Ond fe gawson nhw grasfa o 108 o rediadau yn Taunton, a chael eu bowlio allan am 85.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn eu dwy gêm ugain pelawd, gartref ac oddi cartref, yn erbyn Swydd Gaerloyw y tymor diwethaf.

Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 6.30yh.

‘Ceisio ymateb’

Ar ôl heno, bydd Morgannwg yn teithio i’r Oval nos fory (nos Wener, Mehefin 21) ar gyfer eu hail gêm mewn dwy noson.

Yn ôl Grant Bradburn, fu’n siarad â golwg360 yn Taunton, mae’r gemau’n gyfle i roi’r canlyniad yn erbyn Gwlad yr Haf y tu ôl iddyn nhw.

“Dyna’r peth hyfryd am griced, yn enwedig y gêm sirol – sy’n newydd i fi o ran hyfforddi yn y wlad hon,” meddai.

“Mae’r gemau’n dod yn gyflym, felly mae tueddiad i ni ymlwybro a symud o un gêm i’r llall. Rydyn ni wedi siarad dipyn am hynny.

“Rydyn ni’n dîm sydd eisiau dysgu a thyfu o bob profiad, da neu ddrwg, a byddwn ni’n sicr yn ceisio taro’n ôl.

“Byddwn ni’n myfyrio ar y pethau wnaethon ni’n dda, ac roedd digon o’r rheiny yn ein batiad cyntaf.

“A byddwn ni’n ceisio gwella a dod o hyd i fformiwla i fatio’r ffordd rydyn ni eisiau batio yn y fformat yma.

“Rydyn ni wedi ennill dwy gêm yn y gystadleuaeth ac wedi dod yn agos mewn gemau eraill, ond dydyn ni ddim wedi batio cystal ag yr oedden ni eisiau yma.

“Byddwn ni’n gweithio’n galed ac yn trafod sut i roi’r cyfan at ei gilydd yn well.

“Mae ein carfan wedi ymarfer gydag awch yr wythnos hon, wrth i ni geisio ymateb i berfformiad ddydd Sul yn Taunton doedden ni’n sicr ddim yn falch ohono.

“Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddod â mwy o gryfderau ein sgiliau ni i bob agwedd ar y gêm, gan bwyllo mwy.

“Rydyn ni wedi cyffroi fel grŵp o fod yn ôl yng Ngerddi Sophia gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr cartref.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

Carfan Swydd Gaerloyw: J Taylor, C Bancroft, J Shaw, G van Buuren, D Payne, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, Ajeet Singh Dale, B Charlesworth, O Price, M Hammond, M de Lange

19:19

WICED!

Dwy wiced oddi ar ddwy belen yn olynol i Matt Taylor.

Chris Cooke wedi’i ddal gan y wicedwr James Bracey, a Morgannwg yn 76 am bedair oddi ar 11.5 pelawd, wrth i Ben Kellaway ddod i’r llain.

19:18

WICED!

Ingram wedi’i ddal gan Jack Taylor ar y ffin ar ochr y goes wrth yrru oddi ar fowlio’i frawd Matt.

Morgannwg 76 am dair ar ôl 11.4 pelawd. 

19:09

Hanner ffordd drwy’r batiad, mae Morgannwg wedi cyrraedd 63 am ddwy.

Er eu bod nhw wedi galw’n gywir a phenderfynu batio, dydy batio ddim wedi bod yn hawdd iddyn nhw hyd yn hyn. Ar ôl y grasfa dros y penwythnos, tybed ydy peidio colli wicedi wedi bod ym mlaen eu meddyliau ar draul sgorio rhediadau?

18:55

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Morgannwg 43 am ddwy.

Dechrau araf iawn, dwy wiced wedi’u colli, a Morgannwg dan rywfaint o bwysau eisoes ond yn brwydro i daro’n ôl.

18:53

WICED!

Marnus Labuschagne wedi’i ddal gan y wicedwr James Bracey oddi ar fowlio Matt Taylor am 18.

Morgannwg 42 am ddwy ar ôl 5.4 pelawd, gyda Colin Ingram wrth y llain.

18:36

WICED!

Kiran Carlson wedi’i ddal gan Matt Taylor yn y gyli oddi ar fowlio Shaw. Ergyd wael dros ei ysgwydd yn mynd i’r ochr agored.

Morgannwg yn bump am un ar ôl wyth pelen.

18:34

Kiran Carlson a Sam Northeast yn agor y batio.

David Payne a Josh Shaw yn agor y bowlio.

18:15

18:07

Tîm Morgannwg

  • Kiran Carlson (capten)
  • Sam Northeast
  • Marnus Labuschagne
  • Colin Ingram
  • Chris Cooke
  • Ben Kellaway
  • Dan Douthwaite
  • Timm van der Gugten
  • Mason Crane
  • Andy Gorvin
  • Jamie McIlroy

Tîm Swydd Gaerloyw

  • Miles Hammond
  • Cameron Bancroft
  • Ben Charlesworth
  • James Bracey 
  • Jack Taylor (capten)
  • Beau Webster
  • Graeme van Buuren
  • Marchant de Lange
  • David Payne
  • Josh Shaw
  • Matt Taylor

18:04

Morgannwg wedi galw’n gywir ac yn batio. Newyddion y timau i ddilyn.