Buddugoliaeth i Swydd Gaerloyw

Ergyd chwech oddi ar belen ola’r ornest

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn awyddus i daro’n ôl ar ôl crasfa gan Wlad yr Haf yn Taunton y penwythnos diwethaf, wrth iddyn nhw groesawu eu cymdogion Swydd Gaerloyw i Gaerdydd heno (nos Iau, Mehefin 20).

Bydd y ddau dîm yn cystadlu am Dlws Mon Motors ar ddiwedd yr ornest sy’n cael ei hadnabod wrth yr enw ‘Brwydr y Bont’.

Mae Swydd Gaerloyw un pwynt ac un safle uwchlaw Morgannwg yn y tabl, ac mae’r sir Gymreig wedi ennill dwy gêm a cholli tair, gydag un wedi dod i ben heb ganlyniad oherwydd y tywydd.

Daeth y buddugoliaethau yn erbyn Middlesex yn Lord’s a Sussex yng Nghaerdydd.

Ond fe gawson nhw grasfa o 108 o rediadau yn Taunton, a chael eu bowlio allan am 85.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn eu dwy gêm ugain pelawd, gartref ac oddi cartref, yn erbyn Swydd Gaerloyw y tymor diwethaf.

Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 6.30yh.

‘Ceisio ymateb’

Ar ôl heno, bydd Morgannwg yn teithio i’r Oval nos fory (nos Wener, Mehefin 21) ar gyfer eu hail gêm mewn dwy noson.

Yn ôl Grant Bradburn, fu’n siarad â golwg360 yn Taunton, mae’r gemau’n gyfle i roi’r canlyniad yn erbyn Gwlad yr Haf y tu ôl iddyn nhw.

“Dyna’r peth hyfryd am griced, yn enwedig y gêm sirol – sy’n newydd i fi o ran hyfforddi yn y wlad hon,” meddai.

“Mae’r gemau’n dod yn gyflym, felly mae tueddiad i ni ymlwybro a symud o un gêm i’r llall. Rydyn ni wedi siarad dipyn am hynny.

“Rydyn ni’n dîm sydd eisiau dysgu a thyfu o bob profiad, da neu ddrwg, a byddwn ni’n sicr yn ceisio taro’n ôl.

“Byddwn ni’n myfyrio ar y pethau wnaethon ni’n dda, ac roedd digon o’r rheiny yn ein batiad cyntaf.

“A byddwn ni’n ceisio gwella a dod o hyd i fformiwla i fatio’r ffordd rydyn ni eisiau batio yn y fformat yma.

“Rydyn ni wedi ennill dwy gêm yn y gystadleuaeth ac wedi dod yn agos mewn gemau eraill, ond dydyn ni ddim wedi batio cystal ag yr oedden ni eisiau yma.

“Byddwn ni’n gweithio’n galed ac yn trafod sut i roi’r cyfan at ei gilydd yn well.

“Mae ein carfan wedi ymarfer gydag awch yr wythnos hon, wrth i ni geisio ymateb i berfformiad ddydd Sul yn Taunton doedden ni’n sicr ddim yn falch ohono.

“Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddod â mwy o gryfderau ein sgiliau ni i bob agwedd ar y gêm, gan bwyllo mwy.

“Rydyn ni wedi cyffroi fel grŵp o fod yn ôl yng Ngerddi Sophia gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr cartref.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

Carfan Swydd Gaerloyw: J Taylor, C Bancroft, J Shaw, G van Buuren, D Payne, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, Ajeet Singh Dale, B Charlesworth, O Price, M Hammond, M de Lange

20:18

WICED!

Bracey wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke. Ail wiced i Timm van der Gugten.

Swydd Gaerloyw hefyd mewn rhywfaint o drafferth erbyn hyn, ar 16 am dair ar ôl 3.3 pelawd.

Jack Taylor a Beau Webster sydd wrth y llain i’r ymwelwyr.

20:14

WICED!

Hammond wedi’i fowlio gan McIlroy, wrth i’r batiwr gamu ar draws y llain, colli ei gydbwysedd a gwylio’r bêl yn taro’r wiced.

Swydd Gaerloyw 16 am ddwy ar ôl 2.5 pelawd. Dechreuad digon tebyg i Forgannwg hyd yn hyn…

20:08

WICED!

Cameron Bancroft wedi’i fowlio gan Timm van der Gugten, a’r bêl yn hedfan i’r ffin ar ôl taro’r wiced.

Swydd Gaerloyw yn wyth am un ar ôl saith pelen, a James Bracey yw’r batiwr newydd.

20:03

141 yw’r nod i Swydd Gaerloyw.

Miles Hammond a Cameron Bancroft yn agor y batio i’r ymwelwyr.

Jamie McIlroy a Timm van der Gugten yn agor y bowlio i Forgannwg.

19:51

DIWEDD Y BATIAD

Morgannwg wedi llwyddo i sgorio 140 am chwech yn eu hugain pelawd. Mae’n debyg na fydd yn ddigon o bell ffordd, ond o leia’ roedd rhywfaint o adferiad yn ail hanner y batiad.

Batiad campus gan Sam Northeast, sy’n gorffen heb fod allan am 46. Gallai’r sgôr fod wedi bod yn wahanol iawn heb ei gyfraniad.

19:41

WICED!

Dan Douthwaite wedi gyrru pelen gan Beau Webster i lawr corn gwddf Jack Taylor ar y ffin ar yr ochr agored. Batiad cadarn, a’r batiwr allan am 21.

Morgannwg 118 am chwech ar ôl 17.2 pelawd.

19:33

Morgannwg 102 am bump ar ôl 15 pelawd.

Cyn dechrau’r batiad, wnes i ddarogan fan hyn yn ystafell y wasg y bydden nhw’n sgorio 165. Oni bai eu bod nhw’n cyflymu tua’r diwedd, mae’r sgôr hwnnw’n edrych braidd yn optimistaidd ar hyn o bryd…

19:24

WICED!

Ben Kellaway wedi tynnu Marchant de Lange at Ben Charlesworth oddi ar fowlio Marchant de Lange.

Morgannwg 81 am bump ar ôl 12.5 pelawd. O ddrwg i waeth…

19:19

WICED!

Dwy wiced oddi ar ddwy belen yn olynol i Matt Taylor.

Chris Cooke wedi’i ddal gan y wicedwr James Bracey, a Morgannwg yn 76 am bedair oddi ar 11.5 pelawd, wrth i Ben Kellaway ddod i’r llain.

19:18

WICED!

Ingram wedi’i ddal gan Jack Taylor ar y ffin ar ochr y goes wrth yrru oddi ar fowlio’i frawd Matt.

Morgannwg 76 am dair ar ôl 11.4 pelawd.