Gwlad yr Haf v Morgannwg: Crasfa i’r sir Gymreig

Gwlad yr Haf yn fuddugol o 108 o rediadau

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn codi i’r pedwar uchaf yn eu grŵp yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast pe baen nhw’n curo Gwlad yr Haf yn Taunton heddiw (dydd Sul, Mehefin 16).

Maen nhw’n teithio yno ar ôl iddyn nhw fethu â chwarae yn erbyn Hampshire yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 13) oherwydd y glaw.

Mae’r tîm cartref heddiw ar frig eu grŵp ar hyn o bryd.

Daw’r bowliwr cyflym Harry Podmore yn ôl i mewn i garfan Morgannwg yn lle James Harris, ac mae’r troellwr coes Mason Crane yn ôl ar ôl gorfod colli’r gêm yn erbyn Hampshire gan ei fod ar fenthyg ganddyn nhw.

‘Tîm mewn hwyliau da’

“Fel grŵp, rydyn ni’n edrych ymlaen at y daith i Taunton ddydd Sul, ac at gyfle i herio’r tîm sydd ar frig y tabl,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Tra ei bod yn rhwystredig gwylio’r glaw yn cwympo ddydd Iau… mae’r tîm mewn lle da o ran perfformiadau a hwyliau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at nifer sylweddol o’n cefnogwyr yn teithio brynhawn dydd Sul i Taunton i wylio’r gêm am 3 o’r gloch.”

Carfan Gwlad yr Haf: W Smeed, T Banton, T Kohler-Cadmore, T Abell, S Dickson, J Rew, L Gregory, B Green, K Aldridge, C Overton, R van der Merwe, J Davey, J Ball, R Meredith

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

15:24

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Gwlad yr Haf 51 am un, yn gorffen gydag ergyd chwech i ganol y dorf. Will Smeed 34 heb fod allan.

Bydd Morgannwg yn weddol hapus ar y cyfan.

15:15

WICED!

Tom Banton wedi’i fowlio gan Timm van der Gugten am 14.

Gwlad yr Haf 38 am un ar ôl 3.5 pelawd. Tybed all y wiced atal y llif?

14:58

Jamie McIlroy a Timm van der Gugten yn agor y bowlio i Forgannwg.

Tom Banton a Will Smeed yn batio. Disgwyliwch i’r bêl hedfan i bob cyfeiriad yn y cyfnod clatsio!

14:35

Tîm Gwlad yr Haf

  • Tom Banton
  • Will Smeed
  • Tom Kohler-Cadmore
  • Tom Abell
  • Sean Dickson
  • Lewis Gregory (capten)
  • Ben Green
  • Craig Overton
  • Roelof van der Merwe
  • Jake Ball
  • Riley Meredith

Tîm Morgannwg

  • Kiran Carlson (capten)
  • Eddie Byrom
  • Sam Northeast
  • Colin Ingram
  • Marnus Labuschagne
  • Chris Cooke
  • Dan Douthwaite
  • Mason Crane
  • Timm van der Gugten
  • Jamie McIlroy
  • Andy Gorvin

14:31

Morgannwg wedi galw’n gywir. Gwlad yr Haf yn batio.