Bydd tîm criced Morgannwg yn codi i’r pedwar uchaf yn eu grŵp yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast pe baen nhw’n curo Gwlad yr Haf yn Taunton heddiw (dydd Sul, Mehefin 16).
Maen nhw’n teithio yno ar ôl iddyn nhw fethu â chwarae yn erbyn Hampshire yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 13) oherwydd y glaw.
Mae’r tîm cartref heddiw ar frig eu grŵp ar hyn o bryd.
Daw’r bowliwr cyflym Harry Podmore yn ôl i mewn i garfan Morgannwg yn lle James Harris, ac mae’r troellwr coes Mason Crane yn ôl ar ôl gorfod colli’r gêm yn erbyn Hampshire gan ei fod ar fenthyg ganddyn nhw.
‘Tîm mewn hwyliau da’
“Fel grŵp, rydyn ni’n edrych ymlaen at y daith i Taunton ddydd Sul, ac at gyfle i herio’r tîm sydd ar frig y tabl,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.
“Tra ei bod yn rhwystredig gwylio’r glaw yn cwympo ddydd Iau… mae’r tîm mewn lle da o ran perfformiadau a hwyliau.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at nifer sylweddol o’n cefnogwyr yn teithio brynhawn dydd Sul i Taunton i wylio’r gêm am 3 o’r gloch.”
Carfan Gwlad yr Haf: W Smeed, T Banton, T Kohler-Cadmore, T Abell, S Dickson, J Rew, L Gregory, B Green, K Aldridge, C Overton, R van der Merwe, J Davey, J Ball, R Meredith
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane
Morgannwg wedi galw’n gywir. Gwlad yr Haf yn batio.