Gwlad yr Haf v Morgannwg: Crasfa i’r sir Gymreig

Gwlad yr Haf yn fuddugol o 108 o rediadau

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn codi i’r pedwar uchaf yn eu grŵp yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast pe baen nhw’n curo Gwlad yr Haf yn Taunton heddiw (dydd Sul, Mehefin 16).

Maen nhw’n teithio yno ar ôl iddyn nhw fethu â chwarae yn erbyn Hampshire yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 13) oherwydd y glaw.

Mae’r tîm cartref heddiw ar frig eu grŵp ar hyn o bryd.

Daw’r bowliwr cyflym Harry Podmore yn ôl i mewn i garfan Morgannwg yn lle James Harris, ac mae’r troellwr coes Mason Crane yn ôl ar ôl gorfod colli’r gêm yn erbyn Hampshire gan ei fod ar fenthyg ganddyn nhw.

‘Tîm mewn hwyliau da’

“Fel grŵp, rydyn ni’n edrych ymlaen at y daith i Taunton ddydd Sul, ac at gyfle i herio’r tîm sydd ar frig y tabl,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Tra ei bod yn rhwystredig gwylio’r glaw yn cwympo ddydd Iau… mae’r tîm mewn lle da o ran perfformiadau a hwyliau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at nifer sylweddol o’n cefnogwyr yn teithio brynhawn dydd Sul i Taunton i wylio’r gêm am 3 o’r gloch.”

Carfan Gwlad yr Haf: W Smeed, T Banton, T Kohler-Cadmore, T Abell, S Dickson, J Rew, L Gregory, B Green, K Aldridge, C Overton, R van der Merwe, J Davey, J Ball, R Meredith

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

17:15

WICED!

Dan Douthwaite wedi’i ddal gan Lewis Gregory oddi ar ei fowlio’i hun. Un wiced i fynd i dorri’r record a chyrraedd brig y rhestr wicedi i Wlad yr Haf mewn gemau ugain pelawd.

Morgannwg 59 am chwech oddi ar 10.1 pelawd.

17:08

WICED!

Ergyd wael gan Sam Northeast, yn tynnu Gregory at Jake Ball ar ymyl y cylch.

O ddrwg i waeth i Forgannwg, sydd bellach yn 51 am bump ar ôl 8.2 pelawd. Dan Douthwaite yw’r batiwr newydd.

17:04

WICED!

Colin Ingram wedi’i ddal yn torri’r bêl at Sean Dickson oddi ar fowlio Craig Overton.

Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion. 43 am bedair ar ôl 7.3 pelawd.

16:58

WICED!

Marnus Labuschagne â’i goes o flaen y wiced i Lewis Gregory, sydd angen tair wiced arall i gyrraedd brig rhestr bowlwyr gorau Gwlad yr Haf o ran wicedi mewn gemau ugain pelawd.

Morgannwg 38 am dair ar ôl 6.2 pelawd, wrth i Colin Ingram ddod i’r llain.

16:56

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

O gymharu â 51 am un i Wlad yr Haf ar yr un adeg, mae Morgannwg wedi cyrraedd 37 am ddwy ar ôl chwe phelawd.

Sam Northeast a Marnus Labuschagne sydd wrth y llain i’r sir Gymreig, ac mae ganddyn nhw waith i’w wneud.

16:40

WICED!

Byrom wedi’i ddal gan Tom Banton oddi ar fowlio Riley Meredith. Pelawd ddi-sgôr a wiced.

Morgannwg wyth am ddwy ar ôl dwy belawd, ac mewn rhyw faint o drafferth eisoes.

16:35

WICED!

Kiran Carlson wedi clatsio o’r dechrau, ond wedi canfod dwylo diogel Will Smeed yn safle’r trydydd dyn. Wiced i Craig Overton.

Morgannwg 8 am un ar ôl y belawd gyntaf, a Sam Northeast wrth y llain.

16:32

Kiran Carlson ac Eddie Byrom yn agor y batio i Forgannwg.

Craig Overton yn bowlio.

194 yw’r nod.

16:23

DIWEDD Y BATIAD

Riley Meredith yn taro chwech oddi ar ei unig belen.

Gwlad yr Haf 193 am wyth ar ddiwedd eu hugain pelawd. Sgôr oedd yn edrych yn debygol ar ddechrau’r batiad, ond aeth yn llai tebygol rywle yn y canol cyn yr adferiad tua’r diwedd.

194 fydd y nod i Forgannwg, felly. Amdani!

16:20

WICED!

Craig Overton wedi’i redeg allan. Camddealltwriaeth rhwng y batwyr yn golygu bod y batiwr hanner ffordd i lawr y llain.

Gwlad yr Haf 182 am wyth ar ôl 19.3 pelawd.