Gwlad yr Haf v Morgannwg: Crasfa i’r sir Gymreig

Gwlad yr Haf yn fuddugol o 108 o rediadau

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn codi i’r pedwar uchaf yn eu grŵp yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast pe baen nhw’n curo Gwlad yr Haf yn Taunton heddiw (dydd Sul, Mehefin 16).

Maen nhw’n teithio yno ar ôl iddyn nhw fethu â chwarae yn erbyn Hampshire yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 13) oherwydd y glaw.

Mae’r tîm cartref heddiw ar frig eu grŵp ar hyn o bryd.

Daw’r bowliwr cyflym Harry Podmore yn ôl i mewn i garfan Morgannwg yn lle James Harris, ac mae’r troellwr coes Mason Crane yn ôl ar ôl gorfod colli’r gêm yn erbyn Hampshire gan ei fod ar fenthyg ganddyn nhw.

‘Tîm mewn hwyliau da’

“Fel grŵp, rydyn ni’n edrych ymlaen at y daith i Taunton ddydd Sul, ac at gyfle i herio’r tîm sydd ar frig y tabl,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Tra ei bod yn rhwystredig gwylio’r glaw yn cwympo ddydd Iau… mae’r tîm mewn lle da o ran perfformiadau a hwyliau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at nifer sylweddol o’n cefnogwyr yn teithio brynhawn dydd Sul i Taunton i wylio’r gêm am 3 o’r gloch.”

Carfan Gwlad yr Haf: W Smeed, T Banton, T Kohler-Cadmore, T Abell, S Dickson, J Rew, L Gregory, B Green, K Aldridge, C Overton, R van der Merwe, J Davey, J Ball, R Meredith

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

16:20

WICED!

Craig Overton wedi’i redeg allan. Camddealltwriaeth rhwng y batwyr yn golygu bod y batiwr hanner ffordd i lawr y llain.

Gwlad yr Haf 182 am wyth ar ôl 19.3 pelawd.

16:18

Partneriaeth o hanner cant oddi ar 30 o belenni rhwng Craig Overton a Roelof van der Merwe yn sicrhau sgôr parchus i Wlad yr Haf nawr, doed a ddel. Dyma’r bartneriaeth wythfed wiced orau erioed i’r sir yn erbyn Morgannwg.

175 am saith ar ôl 19 pelawd.

15:59

WICED!

Dyna’r wiced fawr.

Smeed wedi’i fowlio gan Douthwaite am 86. Ei bedwaredd yn y batiad.

Gwlad yr Haf 123 am saith ar ôl 13.5 pelawd, a Douthwaite yn gorffen gyda phedair wiced am 37 yn ei bedair pelawd.

15:53

WICED!

Pedwaredd wiced mewn chwe phelen i Forgannwg.

Ben Green wedi’i ddal oddi ar ei fowlio’i hun gan y troellwr coes Mason Crane.

Mae Gwlad yr Haf dan bwysau’n fwyaf sydyn. 115 am chwech ar ôl 12.2 pelawd.

15:52

WICED!

Mae Morgannwg ar dân. Daliad gwych gan Mason Crane, gyda’r bêl yn hedfan ato.

Lewis Gregory allan am ddau, ail wiced yn y belawd i Douthwaite.

Gwlad yr Haf 114 am bump ar ôl deuddeg pelawd.

15:49

WICED!

Tipyn o ddaliad acrobataidd gan Jamie McIlroy ag un llaw ar ymyl y cylch ar ochr y goes. Roedd rhaid i’r maeswr droi, cadw ei gydbwysedd a dal ei afael ar y bêl. Sgiliau arbennig!

Sean Dickson allan am bedwar.

Gwlad yr Haf 112 am bedair.

15:46

WICED!

Tom Abell wedi’i fowlio gan Dan Douthwaite am bedwar. Wiced haeddiannol i’r bowliwr, oedd wedi dechrau’n dda cyn pelawd wael.

Gwlad yr Haf 108 am dair ar ôl 11.2 pelawd.

15:44

Hanner ffordd drwy’r batiad.

Gwlad yr Haf 94 am ddwy. Bowlio gweddol gan Forgannwg hyd yn hyn. Roeddwn i wedi disgwyl sgôr uwch ar yr adeg yma yn y batiad ar gae mor fach â Taunton.

15:40

WICED!

Kohler-Cadmore wedi’i ddal ar y ffin gan Marnus Labuschagne am naw. Y maeswr yn ymestyn yn ôl, yn camu dros y ffin heb y bêl ond yn camu’n ôl ar y cae i’w dal hi. Tipyn o ragweledigaeth! Wiced i Andy Gorvin.

Gwlad yr Haf 92 am ddwy ar ôl 9.4 pelawd.

15:38

Smeed a Tom Kohler-Cadmore bellach wedi ychwanegu 50 at y sgôr oddi ar 33 o belenni. Dyma obaith gorau Gwlad yr Haf o osod nod sylweddol i Forgannwg.