Morgannwg v Sussex: Buddugoliaeth gynta’r sir Gymreig

Dechrau addawol yn eu hail gêm yn yr ymgyrch

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex i Erddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Mehefin 2, 2.30yp), gan obeithio taro’n ôl ar ôl y golled yn erbyn Surrey nos Wener (Mai 31).

Colli o 19 rhediad wnaeth y sir Gymreig yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth, ar ôl gorfod cwrso 201 i ennill – diolch i 76 gan Jamie Smith i’r Saeson – er i Dan Douthwaite, y bowliwr gorau i’r sir Gymreig ar y noson, gipio dwy wiced.

Roedd hi’n ymdrech arwrol gan y batwyr hefyd i geisio cyrraedd y nod, gyda chyfraniadau gwerthfawr gan Marnus Labuschagne (58), Colin Ingram (50) a Chris Cooke (40), ond roedd ganddyn nhw ormod o waith i’w wneud yn dilyn cyfnodau gwael yn y maes, gyda phedwar daliad wedi’u gollwng.

Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan ar gyfer y ddwy gêm agoriadol.

O ran yr ymwelwyr, byddan nhw’n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw yn eu gêm agoriadol.

Ond mae Tom Clark allan ag anaf i’w ysgwydd o hyd.

‘Awchu’

“Os edrychwch chi ar y garfan a’r tîm sydd gyda ni, mae gyda ni opsiynau sbin, sêm, ac rydyn ni’n batio’n eithaf dwfn gyda Timm [van der Gugten] yn rhif naw a Mason [Crane] yn rhif deg,” meddai Colin Ingram wrth golwg360 ar ôl y gêm yn erbyn Surrey.

“Yn yr ystyr hynny, dw i’n credu ein bod ni’n dîm llawer mwy cyflawn.

“Ond wedi dweud hynny, rhaid i chi fynd a bod yn gystadleuol yn y canol. Dw i’n credu ein bod ni’n teimlo’n siomedig gan y gallen ni fod wedi mynd ac ennill y gêm honno, hyd yn oed yn erbyn tîm mawr fel Surrey.

“Ond bydd hynny’n gwneud i ni awchu wrth fynd i mewn i’r un nesaf.

“Fe wnaethon ni ddysgu tipyn y llynedd, a gwneud nifer o gamgymeriadau, ond dysgon ni lawer am sut rydyn ni eisiau chwarae criced. Eleni, mae’n fater o weithredu ar hynny.

“Rydyn ni’n brifo heno, ond mae hynny wastad yn beth da.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Sussex: T Alsop, J Carson, J Coles, H Crocombe, F Hudson-Prentice, D Hughes, D Lamb, A Lenham, N McAndrew, T Mills (capten), O Robinson, J Simpson, H Ward

16:42

WICED WEDI’R DIGWYDDIAD DADLEUOL

Carter wedi cael ei ddal ar y ffin, Bevan wedi’i dal hi, ond y batiwr wedi aros yn ei unfan. Y daliad isel heb gael ei roi gan y dyfarnwyr.

Ond doedd e ddim wedi para’n hir – wedi’i ddal gan Eddie Byrom ar y ffin oddi ar fowlio Colin Ingram am 33.

Sussex 73 am dair ar ôl 9.1 pelawd.

16:31

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Sussex 47 am ddwy – ychydig ar ei hôl hi. Roedd Morgannwg yn 56 am ddwy ar yr un adeg yn eu batiad nhw.

16:21

WICED!

Tom Alsop allan, wedi’i ddal gan Marnus Labuschagne ar ymyl y cylch ar ochr y goes am wyth. Wiced i Timm van der Gugten.

Sussex 31 am ddwy ar ôl 3.5 pelawd.

16:14

WICED!

Daniel Hughes allan, coes o flaen y wiced oddi ar fowlio Jamie McIlroy am ddeg.

Sussex 22 am un ar ôl 2.1 pelawd.

16:09

Oli Carter a Daniel Hughes sy’n agor y batio i Sussex.

Jamie McIlroy a Tom Bevan yn agor y bowlio i Forgannwg.

15:55

DIWEDD Y BATIAD

Morgannwg 183. Sam Northeast 55 heb fod allan.

Sgôr cystadleuol, ond a fydd e’n ddigon? Gawn ni weld cyn bo hir!

15:52

Tom Bevan wedi’i redeg allan am saith. 

Morgannwg 174 am saith gyda dwy belen o’r batiad yn weddill.

15:43

WICED!

Dan Douthwaite ag ergyd hir, syth yn canfod Carter ar y ffin.

Pedwaredd wiced i Mills.

Morgannwg 162 am chwech ar ôl 17.3 pelawd.

15:41

Hanner canred i Sam Northeast oddi ar 35 pelen.

Morgannwg 161 am bump ar ôl 17.1 pelawd. Dal ychydig yn brin.

15:35

Pelen lydan oddi ar belen yr hatric!