Morgannwg v Sussex: Buddugoliaeth gynta’r sir Gymreig

Dechrau addawol yn eu hail gêm yn yr ymgyrch

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex i Erddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Mehefin 2, 2.30yp), gan obeithio taro’n ôl ar ôl y golled yn erbyn Surrey nos Wener (Mai 31).

Colli o 19 rhediad wnaeth y sir Gymreig yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth, ar ôl gorfod cwrso 201 i ennill – diolch i 76 gan Jamie Smith i’r Saeson – er i Dan Douthwaite, y bowliwr gorau i’r sir Gymreig ar y noson, gipio dwy wiced.

Roedd hi’n ymdrech arwrol gan y batwyr hefyd i geisio cyrraedd y nod, gyda chyfraniadau gwerthfawr gan Marnus Labuschagne (58), Colin Ingram (50) a Chris Cooke (40), ond roedd ganddyn nhw ormod o waith i’w wneud yn dilyn cyfnodau gwael yn y maes, gyda phedwar daliad wedi’u gollwng.

Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan ar gyfer y ddwy gêm agoriadol.

O ran yr ymwelwyr, byddan nhw’n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw yn eu gêm agoriadol.

Ond mae Tom Clark allan ag anaf i’w ysgwydd o hyd.

‘Awchu’

“Os edrychwch chi ar y garfan a’r tîm sydd gyda ni, mae gyda ni opsiynau sbin, sêm, ac rydyn ni’n batio’n eithaf dwfn gyda Timm [van der Gugten] yn rhif naw a Mason [Crane] yn rhif deg,” meddai Colin Ingram wrth golwg360 ar ôl y gêm yn erbyn Surrey.

“Yn yr ystyr hynny, dw i’n credu ein bod ni’n dîm llawer mwy cyflawn.

“Ond wedi dweud hynny, rhaid i chi fynd a bod yn gystadleuol yn y canol. Dw i’n credu ein bod ni’n teimlo’n siomedig gan y gallen ni fod wedi mynd ac ennill y gêm honno, hyd yn oed yn erbyn tîm mawr fel Surrey.

“Ond bydd hynny’n gwneud i ni awchu wrth fynd i mewn i’r un nesaf.

“Fe wnaethon ni ddysgu tipyn y llynedd, a gwneud nifer o gamgymeriadau, ond dysgon ni lawer am sut rydyn ni eisiau chwarae criced. Eleni, mae’n fater o weithredu ar hynny.

“Rydyn ni’n brifo heno, ond mae hynny wastad yn beth da.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Sussex: T Alsop, J Carson, J Coles, H Crocombe, F Hudson-Prentice, D Hughes, D Lamb, A Lenham, N McAndrew, T Mills (capten), O Robinson, J Simpson, H Ward

15:25

Mae angen i Forgannwg brysuro. Maen nhw ar ei hôl hi o ran cyfradd dderbyniol braidd. Gobeithio na fyddan nhw’n brin o rediadau yn y pen draw.

120 am dair ar ôl 14 pelawd.

15:11

HANNER FFORDD

Morgannwg 77 am dair. Faint o niwed fydd y wiced yn ei wneud i’r momentwm, tybed? Maen nhw’n sicr wedi colli rhywfaint.

15:07

WICED!

Cooke allan y tro hwn ag ergyd debyg i’r un oroesodd e â hi’n gynt. Danny Lamb yw’r Mae see, wiced i Tymal Mills. 27 Gwerthfawr.

Morgannwg 75 am dair ar ôl 9.3 pelawd.

15:02

Cooke wedi goroesi!

Ergyd uchel i’r awyr ar ymyl y cylch maesu, a Robinson a Hughes wedi drysu a mynd ar draws ei gilydd wrth wylio’r bêl yn cwympo.

Morgannwg 70 am ddwy ar ôl wyth pelawd.

14:56

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Morgannwg 56 am ddwy.

14:52

Gyda Carlson wedi mynd, Cooke yw’r clatsiwr newydd. 18 heb fod allan.

Morgannwg 46 am ddwy ar ôl pum pelawd.

14:47

WICED!

Byrom ag ergyd fach bwt oddi ar ei goesau, yn canfod dwylo Oli Carter ar y ffin. Wiced i Nathan McAndrew.

Morgannwg 37 am ddwy ar ôl 4.1 pelawd.

14:39

WICED!

Do, fe glatsiodd Carlson yn sgwâr ar ochr y goes a chael ei ddal gan Fynn Hudson-Prentice ar y ffin.

Wiced i Robinson.

Morgannwg 23 am un. Chris Cooke wrth y llain.

14:37

Mae Morgannwg yn datgan eu bwriad yn glir eisoes. Clatsio fydd Carlson, gyda Byrom yn angori’r batiad.

23 heb golli wiced yn yr ail belawd.

14:33

Kiran Carlson ac Eddie Byrom sy’n agor y batio i Forgannwg.

Ollie Robinson a James Coles yn agor y bowlio i Sussex.