Morgannwg v Surrey: Siom i’r sir Gymreig wrth agor y Vitality Blast

Dwy gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd sydd gan y sir Gymreig i ddechrau’r gystadleuaeth

Sgorfwrdd – Morgannwg v Surrey

Bydd tîm criced Morgannwg yn agor eu hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mai 31).

Byddan nhw’n herio Surrey (6.30yh), cyn wynebu Sussex yn y brifddinas brynhawn Sul (Mehefin 2, 2.30yp).

Hon fydd gêm ugain pelawd gynta’r troellwr coes Mason Crane i’r sir, ar ôl iddo symud ar fenthyg o Hampshire.

Bydd James Harris yn cael gorffwys, ond mae’r ddau chwaraewr tramor Colin Ingram a Marnus Labuschagne wedi’u cynnwys.

Enillodd Surrey eu gêm agoriadol o bum wiced yn erbyn Hampshire yr wythnos hon, ond dydy Morgannwg na Sussex ddim wedi chwarae eto.

‘Gwefr’

“Mae gwefr yn y garfan yn sgil newid fformat a chyflymdra, gyda’r T20 wedi ein cyrraedd,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Dros y tri mis diwethaf, rydyn ni wedi symud ein sylw yn rheolaidd tuag at y T20 rhwng canolbwyntio ar y Bencampwriaeth.

“Mae ein carfan i gyd yn dechrau’r ymgyrch yn y Vitality Blast gydag eglurder o ran ein cynlluniau er mwyn ennill, gan gynnwys rolau unigol sydd yn gweddu orau i’r sgiliau gwych sydd gennym yn ein tîm.

“Mae tipyn o gyffro’n adeiladu, yn enwedig gyda’r ddwy rownd gyntaf o gemau gartref, lle mae gennym ni gyfle i arddangos ein sgiliau gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr y tîm cartref yng Ngerddi Sophia.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Surrey: O Pope (capten), S Abbott, G Atkinson, R Burns, T Curran, J Clark, L Evans, S Johnson, D Lawrence, J Roy, D Sibley, J Smith, C Steel, D Worrall

19:54

DIWEDD Y BATIAD

Surrey 200 am wyth.

Ddylai Surrey ddim bod wedi cyrraedd y garreg filltir honno. Os na fydd Morgannwg yn ennill heno, maesu gwael fydd yn gyfrifol.

201 yw’r nod i’r sir Gymreig.

19:52

Tom Bevan wedi gollwng ei ail ddaliad yn y belawd olaf. Dyw maesu Morgannwg ddim wedi bod yn ddigon da o bell ffordd – pedwar cyfle wedi’u gollwng, un daliad oddi ar belen anghyfreithlon, a digon o ergydion i’r ffin y dylid fod wedi’u hatal.

Surrey, i raddau, wedi sgorio mwy nag y dylen nhw fod wedi’i wneud.

19:44

WICED!

Cam Steel wedi’i fowlio gan Mason Crane am 13.

Surrey 169 am wyth.

19:41

Bowlio campus gan Dan Douthwaite heno, sydd wedi bod yn gyflym ac yn dynn. Mae e wedi gorffen ei bedair pelawd. Dwy wiced am 26 i’r bowliwr cyflym.

Surrey 165 am saith gyda thair pelawd i ddod.

19:34

WICED!

Dwy mewn dwy belen i Forgannwg.

Tom Curran wedi’i fowlio gan Labuschagne.

Surrey 146 am saith ar ôl 15.1 pelawd, a Cam Steel yw’r batiwr newydd.

19:32

WICED FAWR!

Jamie Smith allan am 76, wedi’i ddal ar y ffin ar ochr y goes yn gyrru oddi ar Jamie McIlroy at Sam Northeast.

Surrey 146 am chwech ar ôl 15 pelawd.

19:22

WICED!

Jordan Clark wedi’i fowlio gan Douthwaite am bedwar.

Surrey 119 am bump ar ôl 12.3 pelawd, a Tom Curran sy’n dod i’r llain nesa’.

19:17

WICED!

Roedd wir angen y wiced honno ar Forgannwg i dorri’r bartneriaeth o 76.

Hanner canred i Jamie Smith, sydd newydd daro tair chwech oddi ar y troellwr coes Marnus Labuschagne, cyn i Laurie Evans daro’r bêl i lawr corn gwddf Colin Ingram oddi ar fowlio Tom Bevan am 27.

Surrey 107 am bedair ar ôl 11.2 pelawd, a Jordan Clark sy’n dod i’r llain.

19:12

Dyma’r cyfnod hiraf i Forgannwg heb wiced, ac mae’r naill fatiwr a’r llall newydd gael eu gollwng gan Tom Bevan a Colin Ingram.

Ar ôl deg pelawd, hanner ffordd drwy’r batiad, mae Surrey wedi cyrraedd 82 am dair.

18:59

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Surrey 43 am dair.

Ar ôl dechrau’n gryf, mae’r ymwelwyr mewn rhywfaint o drafferth ar ôl y chwe phelawd agoriadol, a bydd Morgannwg yn teimlo boddhad mawr eu bod nhw wedi llwyddo i atal llif y rhediadau gyda wicedi hollbwysig.