Morgannwg v Surrey: Siom i’r sir Gymreig wrth agor y Vitality Blast

Dwy gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd sydd gan y sir Gymreig i ddechrau’r gystadleuaeth

Sgorfwrdd – Morgannwg v Surrey

Bydd tîm criced Morgannwg yn agor eu hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mai 31).

Byddan nhw’n herio Surrey (6.30yh), cyn wynebu Sussex yn y brifddinas brynhawn Sul (Mehefin 2, 2.30yp).

Hon fydd gêm ugain pelawd gynta’r troellwr coes Mason Crane i’r sir, ar ôl iddo symud ar fenthyg o Hampshire.

Bydd James Harris yn cael gorffwys, ond mae’r ddau chwaraewr tramor Colin Ingram a Marnus Labuschagne wedi’u cynnwys.

Enillodd Surrey eu gêm agoriadol o bum wiced yn erbyn Hampshire yr wythnos hon, ond dydy Morgannwg na Sussex ddim wedi chwarae eto.

‘Gwefr’

“Mae gwefr yn y garfan yn sgil newid fformat a chyflymdra, gyda’r T20 wedi ein cyrraedd,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Dros y tri mis diwethaf, rydyn ni wedi symud ein sylw yn rheolaidd tuag at y T20 rhwng canolbwyntio ar y Bencampwriaeth.

“Mae ein carfan i gyd yn dechrau’r ymgyrch yn y Vitality Blast gydag eglurder o ran ein cynlluniau er mwyn ennill, gan gynnwys rolau unigol sydd yn gweddu orau i’r sgiliau gwych sydd gennym yn ein tîm.

“Mae tipyn o gyffro’n adeiladu, yn enwedig gyda’r ddwy rownd gyntaf o gemau gartref, lle mae gennym ni gyfle i arddangos ein sgiliau gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr y tîm cartref yng Ngerddi Sophia.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Surrey: O Pope (capten), S Abbott, G Atkinson, R Burns, T Curran, J Clark, L Evans, S Johnson, D Lawrence, J Roy, D Sibley, J Smith, C Steel, D Worrall

20:43

HANNER FFORDD

Morgannwg 65 am dair. Mae angen 136 yn rhagor arnyn nhw. Os ydyn nhw am ddod yn agos at y nod, mae rhywun yn teimlo fod angen i un o’r batwyr fynd amdani – ond gallai hynny’n hawdd iawn arwain at golli wicedi.

Roedd Surrey yn 82 am dair hanner ffordd drwy eu batiad nhw, gyda llaw.

20:39

Mae batiad Morgannwg yn edrych yn fwy sefydlog gyda Labuschagne ac Ingram, ond maen nhw ymhell ohoni ar hyn o bryd. 

58 am dair ar ôl naw pelawd – 143 yn rhagor i ennill oddi ar unarddeg pelawd.

20:29

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Morgannwg 42 am dair, un rhediad ar ei hôl hi o gymharu â Surrey. Ond mae hi bob amser am fod yn fwy anodd i’r tîm sy’n cwrso os ydyn nhw’n colli wicedi.

20:23

WICED!

Sam Northeast wedi cael ei fat o dan y bêl, ac wedi’i tharo hi’n uchel i’r awyr. Wiced i Jordan Clark, a’r daliad i Johnson. Y batiwr allan am naw.

Morgannwg 30 am dair wrth i Marnus Labuschagne gamu i’r llain.

20:15

WICED!

Kiran Carlson wedi taro’r bêl i safle’r trydydd dyn, a Cam Steel wedi ei ddal oddi ar fowlio Spencer Johnson am un.

Morgannwg 17 am ddwy ar ôl 2.4 pelawd ac mae ganddyn nhw fynydd i’w ddringo eisoes. Pwy ddaw i’w hachub nhw, tybed? 

Colin Ingram sydd wrth y llain gyda Northeast.

20:10

WICED!

Eddie Byrom wedi dangos ei fwriad yn y belawd gyntaf, ond wedi ergydio unwaith yn ormod i’r awyr a chael ei ddal gan Jordan Clark oddi ar fowlio Atkinson am ddeg.

Morgannwg 11 am un ar ôl 1.3 pelawd.

20:05

Spencer Johnson a Gus Atkinson sy’n agor y bowlio i Surrey. Eddie Byrom a Kiran Carlson yn agor y batio i Forgannwg.

201 yw’r nod i’r sir Gymreig. Amdani!

19:54

DIWEDD Y BATIAD

Surrey 200 am wyth.

Ddylai Surrey ddim bod wedi cyrraedd y garreg filltir honno. Os na fydd Morgannwg yn ennill heno, maesu gwael fydd yn gyfrifol.

201 yw’r nod i’r sir Gymreig.

19:52

Tom Bevan wedi gollwng ei ail ddaliad yn y belawd olaf. Dyw maesu Morgannwg ddim wedi bod yn ddigon da o bell ffordd – pedwar cyfle wedi’u gollwng, un daliad oddi ar belen anghyfreithlon, a digon o ergydion i’r ffin y dylid fod wedi’u hatal.

Surrey, i raddau, wedi sgorio mwy nag y dylen nhw fod wedi’i wneud.

19:44

WICED!

Cam Steel wedi’i fowlio gan Mason Crane am 13.

Surrey 169 am wyth.