Morgannwg v Surrey: Siom i’r sir Gymreig wrth agor y Vitality Blast

Dwy gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd sydd gan y sir Gymreig i ddechrau’r gystadleuaeth

Sgorfwrdd – Morgannwg v Surrey

Bydd tîm criced Morgannwg yn agor eu hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mai 31).

Byddan nhw’n herio Surrey (6.30yh), cyn wynebu Sussex yn y brifddinas brynhawn Sul (Mehefin 2, 2.30yp).

Hon fydd gêm ugain pelawd gynta’r troellwr coes Mason Crane i’r sir, ar ôl iddo symud ar fenthyg o Hampshire.

Bydd James Harris yn cael gorffwys, ond mae’r ddau chwaraewr tramor Colin Ingram a Marnus Labuschagne wedi’u cynnwys.

Enillodd Surrey eu gêm agoriadol o bum wiced yn erbyn Hampshire yr wythnos hon, ond dydy Morgannwg na Sussex ddim wedi chwarae eto.

‘Gwefr’

“Mae gwefr yn y garfan yn sgil newid fformat a chyflymdra, gyda’r T20 wedi ein cyrraedd,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Dros y tri mis diwethaf, rydyn ni wedi symud ein sylw yn rheolaidd tuag at y T20 rhwng canolbwyntio ar y Bencampwriaeth.

“Mae ein carfan i gyd yn dechrau’r ymgyrch yn y Vitality Blast gydag eglurder o ran ein cynlluniau er mwyn ennill, gan gynnwys rolau unigol sydd yn gweddu orau i’r sgiliau gwych sydd gennym yn ein tîm.

“Mae tipyn o gyffro’n adeiladu, yn enwedig gyda’r ddwy rownd gyntaf o gemau gartref, lle mae gennym ni gyfle i arddangos ein sgiliau gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr y tîm cartref yng Ngerddi Sophia.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Surrey: O Pope (capten), S Abbott, G Atkinson, R Burns, T Curran, J Clark, L Evans, S Johnson, D Lawrence, J Roy, D Sibley, J Smith, C Steel, D Worrall

18:32

Mae llawer o rediadau fel arfer mewn gemau ugain pelawd rhwng Morgannwg a Surrey, a dw i ddim yn disgwyl i heno fod yn wahanol.

Dan Lawrence a Laurie Evans sy’n agor y batio i’r ymwelwyr. 

Jack Shantry a Tom Lungley yw’r dyfarnwyr.

18:07

Tîm Morgannwg:

  • Eddie Byrom
  • Kiran Carlson (capten)
  • Marnus Labuschagne
  • Colin Ingram
  • Sam Northeast
  • Chris Cooke
  • Dan Douthwaite
  • Tom Bevan
  • Mason Crane
  • Timm van der Gugten
  • Jamie McIlroy

Tîm Surrey:

  • Dan Lawrence
  • Laurie Evans
  • Jason Roy
  • Ollie Pope (capten)
  • Jamie Smith
  • Jordan Clark
  • Tom Curran
  • Sean Abbott
  • Cam Steel
  • Gus Atkinson
  • Spencer Johnson

Morgannwg wedi hepgor Harry Podmore, Ben Kellaway, Will Smale ac Andy Gorvin. O ran carfan Surrey, dydy Rory Burns, Dom Sibley na Dan Worrall ddim yn y tîm.

18:05

Morgannwg sydd wedi galw’n gywir, ac maen nhw wedi gwahodd Surrey i fatio. Newyddion y timau i ddilyn…