Middlesex yn curo Morgannwg o ddwy wiced

Byddai buddugoliaeth i Forgannwg wedi eu codi nhw i’r ail safle yn y Bencampwriaeth

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae’r Awstraliad Marnus Labuschagne wedi’i enwi yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf eleni, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i Gaerdydd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 17).

Fe wnaeth Morgannwg guro Sussex, sydd ar frig yr Ail Adran, yn ei gêm ddiwethaf, a’r tro hwn maen nhw’n wynebu’r tîm sydd yn yr ail safle.

Gallai buddugoliaeth godi Morgannwg i’r ail safle hollbwysig hwnnw, wrth iddyn nhw lygadu dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae un pwynt yn gwahanu Middlesex a Morgannwg.

Does dim lle i Mir Hamza, y bowliwr cyflym llaw chwith, wrth i Labuschagne ddychwelyd i’r garfan, ochr yn ochr â’r chwaraewr tramor arall, Colin Ingram.

Mae Timm van der Gugten a Harry Podmore yn chwarae i’r ail dîm ar hyn o bryd, wrth i’r bowlwyr cyflym barhau i wella o anafiadau.

Gemau’r gorffennol

Gorffennodd y gêm gyfatebol ar gae Lord’s ar ddechrau’r tymor yn gyfartal, wrth i Sam Northeast sgorio 335 heb fod allan – y sgôr unigol gorau erioed yn hanes y sir.

Tarodd Colin Ingram 132 heb fod allan ben draw’r llain, wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 620 am dair, wrth i Middlesex ymateb gda 655, gyda Ryan Higgins yn taro 221.

Enillodd Middlesex y gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw yng Nghaerdydd yn 2022, wrth i Toby Roland-Jones gipio wyth wiced, gyda John Simpson yn taro 104.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Middlesex yng Nghaerdydd ers 33 o flynyddoedd, pan gipiodd Steve Barwick a Mark Frost bedair wiced yr un yn y fuddugoliaeth o 129 o rediadau ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, C Ingram, M Labuschagne, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, J Davies, J de Caires, L du Plooy, S Eskinazi, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman, S Robson, M Stoneman

19:31

DIWEDD

Morgannwg 294 am saith.

Canred yr un i Marnus Labuschagne a Colin Ingram yn rhoi Morgannwg ar y blaen o 134 gyda diwrnod yn weddill.

18:25

Marnus Labuschagne allan am 111, ond Morgannwg yn dal i ymestyn eu mantais.

Colin Ingram 81 heb fod allan.

Morgannwg 245 am bedair, ar y blaen o 85.

17:48

Canred i Marnus Labuschagne.

Morgannwg 219 am dair, ar y blaen o 59 rhediad.

16:58

Partneriaeth allweddol rhwng Colin Ingram a Marnus Labuschagne wrth i Forgannwg frwydro’n galed.

Morgannwg 162 am dair, ar y blaen o ddau rediad.

15:38

Morgannwg 98 am dair. Ar ei hôl hi o 62 o hyd yn eu hail fatiad. Hanner canred i Marnus Labuschagne.

13:25

Amser cinio yng Nghaerdydd:

Morgannwg 33 heb golli wiced, ar ei hôl hi o 127 yn eu hail fatiad.

12:28

Wiced i Mason Crane i orffen batiad Middlesex ar 343, a’r ymwelwyr sydd ar y blaen o 160 ar ddiwedd y batiad cyntaf.

12:04

Wiced yr un i James Harris a Jamie McIlroy i waredu Luke Hollman a Jack Davies.

Middlesex 333 am naw.

11:27

Dechrau da i’r trydydd diwrnod i Forgannwg. 

Wiced yn ystod yr hanner awr cyntaf, gyda Tom Helm wedi’i fowlio gan Andy Gorvin am chwech.

Middlesex 313 am saith.

18:37

DIWEDD

Middlesex 303 am chwech, ar y blaen o 120.

Ryan Higgins 53 heb fod allan.