Middlesex yn curo Morgannwg o ddwy wiced

Byddai buddugoliaeth i Forgannwg wedi eu codi nhw i’r ail safle yn y Bencampwriaeth

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae’r Awstraliad Marnus Labuschagne wedi’i enwi yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf eleni, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i Gaerdydd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 17).

Fe wnaeth Morgannwg guro Sussex, sydd ar frig yr Ail Adran, yn ei gêm ddiwethaf, a’r tro hwn maen nhw’n wynebu’r tîm sydd yn yr ail safle.

Gallai buddugoliaeth godi Morgannwg i’r ail safle hollbwysig hwnnw, wrth iddyn nhw lygadu dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae un pwynt yn gwahanu Middlesex a Morgannwg.

Does dim lle i Mir Hamza, y bowliwr cyflym llaw chwith, wrth i Labuschagne ddychwelyd i’r garfan, ochr yn ochr â’r chwaraewr tramor arall, Colin Ingram.

Mae Timm van der Gugten a Harry Podmore yn chwarae i’r ail dîm ar hyn o bryd, wrth i’r bowlwyr cyflym barhau i wella o anafiadau.

Gemau’r gorffennol

Gorffennodd y gêm gyfatebol ar gae Lord’s ar ddechrau’r tymor yn gyfartal, wrth i Sam Northeast sgorio 335 heb fod allan – y sgôr unigol gorau erioed yn hanes y sir.

Tarodd Colin Ingram 132 heb fod allan ben draw’r llain, wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 620 am dair, wrth i Middlesex ymateb gda 655, gyda Ryan Higgins yn taro 221.

Enillodd Middlesex y gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw yng Nghaerdydd yn 2022, wrth i Toby Roland-Jones gipio wyth wiced, gyda John Simpson yn taro 104.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Middlesex yng Nghaerdydd ers 33 o flynyddoedd, pan gipiodd Steve Barwick a Mark Frost bedair wiced yr un yn y fuddugoliaeth o 129 o rediadau ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, C Ingram, M Labuschagne, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, J Davies, J de Caires, L du Plooy, S Eskinazi, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman, S Robson, M Stoneman

18:14

Wiced!

Ethan Bamber wedi’i redeg allan mewn ffordd ryfedd oddi ar y bowliwr.

Middlesex 297 am chwech.

18:08

Ryan Higgins wedi cyrraedd ei hanner canred i’r ymwelwyr.

18:03

Wiced!

Fernandes wedi’i fowlio gan Harris.

Middlesex 297 am bump.

17:28

Middlesex yn ailddechrau ar 281 am bedair.

17:09

Mae disgwyl i’r gêm ailddechrau am 5.30 os na fydd rhagor o law.

15.2 pelawd yn weddill heno.

16:40

Archwiliad o’r cae am 5 o’r gloch. Ond mae’n bwrw mewn rhai ardaloedd cyfagos o hyd.

15:53

Mae’n bosib na welwn ni ragor o griced heddiw. Glaw am weddill y dydd, yn ôl y rhagolygon.

15:42

TE.

Y glaw wedi dod ddwy belen cyn diwedd y belawd olaf.

Middlesex 281 am bedair.

Ryan Higgins 36 heb fod allan, Nathan Fernandes 22 heb fod allan.

15:19

Mae gan Andy Gorvin y bêl newydd yn ei law. Ai dyma’r cyfnod pan welwn ni’r wicedi’n llifo?

14:54

Middlesex wedi colli eu pedwaredd wiced.

Stoneman allan, wedi’i ddal gan Andy Gorvin yn gyrru’n syth ar ochr y goes oddi ar fowlio Kiran Carlson am 129.

Middlesex 235 am bedair.