Middlesex yn curo Morgannwg o ddwy wiced

Byddai buddugoliaeth i Forgannwg wedi eu codi nhw i’r ail safle yn y Bencampwriaeth

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae’r Awstraliad Marnus Labuschagne wedi’i enwi yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf eleni, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i Gaerdydd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 17).

Fe wnaeth Morgannwg guro Sussex, sydd ar frig yr Ail Adran, yn ei gêm ddiwethaf, a’r tro hwn maen nhw’n wynebu’r tîm sydd yn yr ail safle.

Gallai buddugoliaeth godi Morgannwg i’r ail safle hollbwysig hwnnw, wrth iddyn nhw lygadu dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae un pwynt yn gwahanu Middlesex a Morgannwg.

Does dim lle i Mir Hamza, y bowliwr cyflym llaw chwith, wrth i Labuschagne ddychwelyd i’r garfan, ochr yn ochr â’r chwaraewr tramor arall, Colin Ingram.

Mae Timm van der Gugten a Harry Podmore yn chwarae i’r ail dîm ar hyn o bryd, wrth i’r bowlwyr cyflym barhau i wella o anafiadau.

Gemau’r gorffennol

Gorffennodd y gêm gyfatebol ar gae Lord’s ar ddechrau’r tymor yn gyfartal, wrth i Sam Northeast sgorio 335 heb fod allan – y sgôr unigol gorau erioed yn hanes y sir.

Tarodd Colin Ingram 132 heb fod allan ben draw’r llain, wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 620 am dair, wrth i Middlesex ymateb gda 655, gyda Ryan Higgins yn taro 221.

Enillodd Middlesex y gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw yng Nghaerdydd yn 2022, wrth i Toby Roland-Jones gipio wyth wiced, gyda John Simpson yn taro 104.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Middlesex yng Nghaerdydd ers 33 o flynyddoedd, pan gipiodd Steve Barwick a Mark Frost bedair wiced yr un yn y fuddugoliaeth o 129 o rediadau ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, C Ingram, M Labuschagne, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, J Davies, J de Caires, L du Plooy, S Eskinazi, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman, S Robson, M Stoneman

14:44

Wiced!

James Harris wedi gadael i belen syth daro’r ffon ganol.

Wiced i Toby Roland-Jones. Y batiwr allan am bump.

Morgannwg 103 am saith.

14:12

…. ac un arall.

Ingram wedi’i fowlio gan Ethan Bamber am ddeg.

Morgannwg 92 am chwech.

14:08

Dyfroedd dyfnion i Forgannwg.

Ail wiced yn y belawd i Helm. Chris Cooke wedi’i fowlio heb sgorio.

92 am bump.

14:04

O ddrwg i waeth i Forgannwg.

Northeast wedi’i fowlio gan Helm am 18.

90 am bedair.

13:45

Toc ar ôl cinio, mae Kiran Carlson wedi’i ddal yn sgwâr gan Ryan Higgins oddi ar fowlio Ethan Bamber am naw.

Morgannwg 76 am dair.

13:03

CINIO 

Morgannwg 72 am ddwy.

Kiran Carlson a Sam Northeast wrth y llain ar ddiwedd bore llwyddiannus i Middlesex.

12:49

… A nawr maen nhw wedi colli wiced arall. Daliad arall i Davies, a wiced i Ryan Higgins. 

Eddie Byrom allan am 26.

Morgannwg 58 am ddwy.

12:47

Morgannwg wedi colli momentwm ers iddyn nhw golli’r wiced.

58 am un.

11:49

Er gwybodaeth, hen ewythr Jack Davies yw Haydn Davies, cyn-wicedwr Morgannwg.

11:47

WICED

Labuschagne wedi’i ddal gan y wicedwr Jack Davies oddi ar fowlio Tom Helm am 23.

Morgannwg 44 am un.