Middlesex yn curo Morgannwg o ddwy wiced

Byddai buddugoliaeth i Forgannwg wedi eu codi nhw i’r ail safle yn y Bencampwriaeth

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae’r Awstraliad Marnus Labuschagne wedi’i enwi yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf eleni, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i Gaerdydd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 17).

Fe wnaeth Morgannwg guro Sussex, sydd ar frig yr Ail Adran, yn ei gêm ddiwethaf, a’r tro hwn maen nhw’n wynebu’r tîm sydd yn yr ail safle.

Gallai buddugoliaeth godi Morgannwg i’r ail safle hollbwysig hwnnw, wrth iddyn nhw lygadu dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae un pwynt yn gwahanu Middlesex a Morgannwg.

Does dim lle i Mir Hamza, y bowliwr cyflym llaw chwith, wrth i Labuschagne ddychwelyd i’r garfan, ochr yn ochr â’r chwaraewr tramor arall, Colin Ingram.

Mae Timm van der Gugten a Harry Podmore yn chwarae i’r ail dîm ar hyn o bryd, wrth i’r bowlwyr cyflym barhau i wella o anafiadau.

Gemau’r gorffennol

Gorffennodd y gêm gyfatebol ar gae Lord’s ar ddechrau’r tymor yn gyfartal, wrth i Sam Northeast sgorio 335 heb fod allan – y sgôr unigol gorau erioed yn hanes y sir.

Tarodd Colin Ingram 132 heb fod allan ben draw’r llain, wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 620 am dair, wrth i Middlesex ymateb gda 655, gyda Ryan Higgins yn taro 221.

Enillodd Middlesex y gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw yng Nghaerdydd yn 2022, wrth i Toby Roland-Jones gipio wyth wiced, gyda John Simpson yn taro 104.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Middlesex yng Nghaerdydd ers 33 o flynyddoedd, pan gipiodd Steve Barwick a Mark Frost bedair wiced yr un yn y fuddugoliaeth o 129 o rediadau ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, C Ingram, M Labuschagne, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, J Davies, J de Caires, L du Plooy, S Eskinazi, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman, S Robson, M Stoneman

13:01

CINIO

Middlesex 170 am un.

Stoneman 99 heb fod allan.

12:35

Middlesex yn edrych yn gyfforddus wrth i Forgannwg gylchdroi’r bowlwyr. Stoneman 87 heb fod allan.

152 am un.

11:28

Wiced!

Daliad campus gan Marnus Labuschagne i waredu Sam Robson. Y maeswr wedi rhedeg tipyn i ddal y bêl. Wiced i James Harris.

Middlesex 97 am un.

11:13

AIL DDIWRNOD

Hanner canred i Mark Stoneman.

Middlesex 83 heb golli wiced.

18:01

DIWEDD, Diwrnod 1 – Middlesex 62 heb golli wiced, Stoneman 43 heb fod allan; (Morgannwg 183 i gyd allan)

Diwrnod digon siomedig oedd hwn i Forgannwg, ar ôl iddyn nhw gael eu bowlio allan am 183. Doedd hi fawr gwell i’r bowlwyr chwaith, wrth i Middlesex oroesi 21 pelawd heb gael eu trafferthu.

Roedd cryn edrych ymlaen at Marnus Labuschagne yn dychwelyd am dymor arall, ond 23 yn unig sgoriodd e yn ei fatiad cyntaf yn ôl wrth y llain yng Nghaerdydd.

Gyda’r bowlio mor allweddol i’r fuddugoliaeth dros Sussex, roedd y penderfyniad i ddewis Labuschagne a Colin Ingram ar draul Mir Hamza, y bowliwr cyflym llaw chwith o Bacistan, yn un dadleuol. Gyda Michael Neser bellach wedi gadael hefyd, a Timm van der Gugten a Harry Podmore allan ag anafiadau, mae’r sir Gymreig un bowliwr cyflym bygythiol yn brin – ac roedd hi’n edrych fel pe byddai Hamza wedi gallu llenwi’r bwlch hwnnw. 

Mae angen cipio ugain wiced i ennill gemau – ond o ble ddaw’r wicedi, tybed?

17:38

Middlesex wedi dechrau eu batiad cyntaf nhw yn gryf.

Sam Robson a Mark Stoneman wrth y llain.

32 heb golli wiced.

16:53

Jamie McIlroy wedi’i fowlio gan Hollman heb sgorio.

Mason Crane 32hfa.

Morgannwg i gyd allan am 183.

16:46

Wiced!

Andy Gorvin wedi ergydio’n uchel i’r awyr ac wedi’i ddal gan Roland-Jones am 13. Wiced i Helm.

Morgannwg 182-9.

15:58

TE

Morgannwg 158 am wyth.

15:42

Wiced!

Zain Ul Hassan wedi sgubo’n wyllt at Leus du Plooy yn y slip oddi ar fowlio Luke Hollman.

Y batiwr allan am 34, a Morgannwg yn 151 am wyth.