Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).
Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.
Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.
Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.
Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.
Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.
Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.
Gemau’r gorffennol
Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.
Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.
Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.
Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.
Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan
Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales
Mae’r chwaraewyr wedi gadael y cae. Ond mae’r awyr yn las – rhagofal, mae’n debyg. Mae pryderon fod storm ar ei ffordd.
PUM WICED I ANDY GORVIN!
Carson allan â’i goes o flaen y wiced am un.
Sussex 172 am wyth, ar y blaen o 39.
Wiced arall i Gorvin. Ei bedwaredd.
Danny Lamb â’i goes o flaen y wiced am bump.
Sussex 164 am saith.
Hanner canred i James Coles.
Sussex 160 am chwech, ar y blaen o 27.
Wiced fawr! Partneriaeth o 118 ar ben.
Hudson-Prentice wedi’i ddal gan Zain Ul Hassan yn gyrru ar ochr y goes am 70. Wiced i Gorvin.
Sussex 150 am chwech, ar y blaen o 17.
Buddugoliaeth o fewn cyrraedd i Forgannwg nawr.
Mae’r ddau fatiwr bellach wedi adeiladu partneriaeth o gant. Mae angen i’r bowlwyr ei thorri’n fuan.
Yn fuan ar ôl cinio, mae Fynn Hudson-Prentice wedi cyrraedd ei hanner canred.
Mae Mir Hamza yn bowlio eto.
Cinio
Sussex 111 am bump, ar ei hôl hi o ddim ond 22 rhediad. Dihangfa!
James Coles 30hfa, Fynn Hudson-Prentice 48hfa.
Gyda’r pwysau oddi ar y batwyr, mae Fynn Hudson-Prentice a James Coles wedi adeiladu partneriaeth swmpus o 61 hyd yn hyn.
Mae angen i Mir Hamza fowlio eto cyn bo hir.
Am yr ail waith yn y gêm, mae Mir Hamza wedi gadael yr ymosod ac yntau yn ei anterth. Penderfyniad rhyfedd.