Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).
Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.
Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.
Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.
Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.
Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.
Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.
Gemau’r gorffennol
Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.
Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.
Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.
Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.
Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan
Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales
Eddie Byrom a Billy Root sy’n agor y batio i Forgannwg. 56 yw’r nod.
Llongyfarchiadau i Andy Gorvin ar ei ffigurau gorau erioed – pum wiced am 40.
25 pelawd fydd gan Forgannwg i’w hwynebu heno.
Wiced!
Jayden Seales wedi’i ddal gan Mir Hamza. Ail wiced yn y belawd i Crane.
Sussex i gyd allan am 188.
56 yw’r nod i Forgannwg.
Wiced!
Ari Karvelas wedi’i ddal gan y wicedwr Cooke am 15. Wiced i Mason Crane.
Sussex 188 am naw.
Dyma ni… Rhagor o griced i ddod cyn bo hir.
Sussex yn ailddechrau ar 186 am wyth, ar y blaen o 53.
Pa mor gyflym all Morgannwg gipio’r ddwy wiced olaf, tybed?
Bydd y gêm yn ailddechrau am 5.10yp. 16 pelawd wedi’u colli.
Archwiliad pellach am 4.40yp.
Mae’r dyfarnwyr wedi bod allan ar y cae. Yr awgrym yw y byddwn ni’n ailddechrau am 5 o’r gloch. Ond dim cadarnhad eto.
Mae’r chwaraewyr wedi cael te cynnar. Storm yma nawr.
Dyma’r olygfa erbyn hyn. Mae’n bwrw bellach.