Morgannwg yn fuddugol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers Blwyddyn

Y sir Gymreig wedi curo Sussex o naw wiced yng Nghaerdydd

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Gerddi Sophia

Gerddi Sophia, Caerdydd

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).

Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.

Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.

Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.

Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.

Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.

Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.

Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.

Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales

15:12

Mae Mir Hamza ar dân! 

Pedwaredd wiced iddo fe. Sussex wedi colli’u chweched wiced.

James Coles allan, coes o flaen y wiced am 19.

Sussex 136 am chwech.

14:53

Trydedd wiced i Mir Hamza, a phumed wiced i Forgannwg.

John Simpson allan, coes o flaen y wiced heb sgorio.

Sussex 133 am bump.

14:41

Daeth yr ystadegyn bach hwnnw wrth i Pujara gael ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Mir Hamza am 41.

Sussex 131 am bedair.

14:38

Wrth i Cheteshwar Pujara glosio at ei hanner canred, mae’n ddiddorol nodi mai yn erbyn Morgannwg mae ei gyfartaledd isaf o blith yr holl siroedd yn y Bencampwriaeth. 

13:50

WICED

Alsop wedi’i fowlio gan Harris am 29.

Sussex 96 am dair.

13:04

CINIO

Sussex 94 am ddwy.

Pujara 24hfa

Alsop 27hfa

12:42

Sylwadau diddorol gan Mark Rhydderch-Roberts, cadeirydd Morgannwg, yn The Cricketer.

Mae’n cydnabod fod Morgannwg wedi “tanberfformio ers dau ddegawd”, ac yn sôn nad yw’r sir wedi cynhyrchu cricedwyr i Loegr a bod “angen i hyn newid”.

Mae’n awgrymu mai rhyngwladoli yw’r nod bellach, gyda Grant Bradburn o Seland Newydd yn Brif Hyfforddwr.

“Rydym yn bwriadu datblygu diwylliant rhyngwladol mwy allblyg ar y cae ac oddi arno,” meddai. “Ac mae Grant yn rhan annatod o’r broses honno.”

Dyna ni felly – newyddion drwg i unrhyw un sydd wedi bod yn gobeithio gweld mwy o Gymry yn y tîm, er ei fod e’n cyfeirio at nifer o Gymry sy’n dechrau torri drwodd o’r Academi. Ond prin fydd eu cyfleoedd nhw eto o gofio bod Hugh Morris bellach yn sgowt ac yn edrych tua’r ysgolion bonedd yn Lloegr. 

12:06

Ail wiced i Forgannwg.

Tom Clark allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio James Harris am 18.

Sussex 46 am ddwy.

11:37

Wiced gynta’r bore i Forgannwg a Mir Hamza.

Tom Haines â’i goes o flaen y wiced. 

Sussex 29 am un.

11:22