Morgannwg yn fuddugol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers Blwyddyn

Y sir Gymreig wedi curo Sussex o naw wiced yng Nghaerdydd

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Gerddi Sophia

Gerddi Sophia, Caerdydd

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).

Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.

Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.

Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.

Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.

Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.

Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.

Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.

Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales

13:01

Cinio

Sussex 111 am bump, ar ei hôl hi o ddim ond 22 rhediad. Dihangfa!

James Coles 30hfa, Fynn Hudson-Prentice 48hfa.

12:43

Gyda’r pwysau oddi ar y batwyr, mae Fynn Hudson-Prentice a James Coles wedi adeiladu partneriaeth swmpus o 61 hyd yn hyn.

Mae angen i Mir Hamza fowlio eto cyn bo hir.

12:15

Am yr ail waith yn y gêm, mae Mir Hamza wedi gadael yr ymosod ac yntau yn ei anterth. Penderfyniad rhyfedd.

12:08

Ffigurau’r ddau fowliwr ar hyn o bryd:

Andy Gorvin: 1-1-0-2

Mir Hamza: 6-1-17-3

12:02

Ail wiced yn y belawd i Andy Gorvin. Hwnnw ar dân hefyd.

John Simpson â’i goes o flaen y wiced heb sgorio.

Sussex 32 am bump ac mewn trafferthion difrifol nawr.

11:58

WICED!

Andy Gorvin yn tanio gyda’i belen gyntaf.

Pujara allan am dri, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke.

Sussex 32 am bedair, ac mewn rhywfaint o drafferth. Ar ei hôl hi o 101.

11:52

Trydedd wiced i Mir Hamza!

Tom Alsop â’i goes o flaen y wiced am bump.

Sussex 32 am dair, ar ei hôl hi o 101 o hyd.

11:40

Wiced!

Mir Hamza wedi cael gwared ar Tom Haines, wedi’i ddal gan Andy Gorvin yn y slip am 14.

Sussex 29 am ddwy, ar ei hôl hi o 104.

11:32

Dechrau da i Forgannwg.

Wiced i Mir Hamza. Tom Clark â’i goes o flaen y wiced am wyth.

Sussex 22 am un. Ar ei hôl hi o 111.

11:03

Batiad Morgannwg wedi dod i ben ar 411.

Mir Hamza wedi’i redeg allan.