Morgannwg yn fuddugol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers Blwyddyn

Y sir Gymreig wedi curo Sussex o naw wiced yng Nghaerdydd

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Gerddi Sophia

Gerddi Sophia, Caerdydd

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).

Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.

Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.

Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.

Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.

Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.

Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.

Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.

Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales

17:58

Ergyd arall i’r ffin gan Root.

Dau i ennill.

17:56

Tair ergyd yn olynol i’r ffin gan Billy Root.

50 am un. Chwech i ennill.

Taniwch yr injan, bois!

17:45

Wiced i Sussex.

Eddie Byrom allan, wedi’i ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Ari Karvelas am 21.

Morgannwg 33 am un. 

Y capten Sam Northeast sy’n dod i’r llain.

17:38

Mae Morgannwg yn mynd amdani.

20 heb golli wiced yn y drydedd pelawd.

17:32

Flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon enillodd Morgannwg eu gêm Bencampwriaeth ddiwethaf – i’r diwrnod bron…!

Daeth honno yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

17:29

Eddie Byrom a Billy Root sy’n agor y batio i Forgannwg. 56 yw’r nod.

17:20

Llongyfarchiadau i Andy Gorvin ar ei ffigurau gorau erioed – pum wiced am 40.

25 pelawd fydd gan Forgannwg i’w hwynebu heno.

17:19

Wiced!

Jayden Seales wedi’i ddal gan Mir Hamza. Ail wiced yn y belawd i Crane.

Sussex i gyd allan am 188.

56 yw’r nod i Forgannwg.

17:16

Wiced!

Ari Karvelas wedi’i ddal gan y wicedwr Cooke am 15. Wiced i Mason Crane.

Sussex 188 am naw.

17:04

Dyma ni… Rhagor o griced i ddod cyn bo hir.

Sussex yn ailddechrau ar 186 am wyth, ar y blaen o 53.

Pa mor gyflym all Morgannwg gipio’r ddwy wiced olaf, tybed?