Morgannwg yn fuddugol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers Blwyddyn

Y sir Gymreig wedi curo Sussex o naw wiced yng Nghaerdydd

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Gerddi Sophia

Gerddi Sophia, Caerdydd

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).

Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.

Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.

Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.

Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.

Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.

Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.

Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.

Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales

17:11

Nawfed wiced i Forgannwg.

Carson allan am 39, wedi’i ddal yn y slip gan Colin Ingram oddi ar fowlio’r troellwr coes Mason Crane am 39.

Sussex 235 am naw.

16:41

Mae’r seibiant wedi gwneud lles i Forgannwg.

Mae Sussex wedi colli’u hwythfed wiced ar 206. Pedwaredd wiced i James Harris, sydd wedi bowlio Hudson-Prentice.

16:06

Amser te yng Nghaerdydd.

Sussex 186 am saith. 

Hudson-Prentice 38hfa, Carson 14hfa.

Diweddglo rhwystredig i’r sesiwn i Forgannwg, gyda phartneriaeth o 46 hyd yn hyn rhwng y ddau sydd wrth y llain.

15:50

Hanner awr ers y wiced ddiwethaf erbyn hyn. Morgannwg wedi tynnu’u troed oddi ar y sbardun ers i Mir Hamza gael ei dynnu allan o’r ymosod.

Sussex 170 am saith – partneriaeth o 30 rhwng Hudson-Prentice a Carson.

15:20

Wicedi fel bysus, braidd!

Danny Lamb wedi’i ddal yn y slip gan Andy Gorvin heb sgorio. Trydedd wiced i James Harris.

Sussex 140 am saith.

15:12

Mae Mir Hamza ar dân! 

Pedwaredd wiced iddo fe. Sussex wedi colli’u chweched wiced.

James Coles allan, coes o flaen y wiced am 19.

Sussex 136 am chwech.

14:53

Trydedd wiced i Mir Hamza, a phumed wiced i Forgannwg.

John Simpson allan, coes o flaen y wiced heb sgorio.

Sussex 133 am bump.

14:41

Daeth yr ystadegyn bach hwnnw wrth i Pujara gael ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Mir Hamza am 41.

Sussex 131 am bedair.

14:38

Wrth i Cheteshwar Pujara glosio at ei hanner canred, mae’n ddiddorol nodi mai yn erbyn Morgannwg mae ei gyfartaledd isaf o blith yr holl siroedd yn y Bencampwriaeth. 

13:50

WICED

Alsop wedi’i fowlio gan Harris am 29.

Sussex 96 am dair.