Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 10).
Dyma’r eildro i Forgannwg chwarae yng Ngerddi Sophia y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn 2024.
Fe wnaeth y sir Gymreig frwydro’n galed i achub yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley, gan orffen yn gyfartal ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf.
Cipiodd Mason Crane, y troellwr coes, bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’w sir newydd, wrth i Joe Root a Finlay Bean daro canred yr un i’r Saeson.
Tarodd Colin Ingram a Sam Northeast ganred yr un i Forgannwg yn yr ail fatiad.
Northeast yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth i unrhyw sir erbyn hyn, ac mae’n anelu am 1,000 o rediadau cyn diwedd mis Mai.
Mae Sussex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn chweched.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif hyfforddwr Grant Bradburn ganmol cymeriad Morgannwg, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i berfformio’n dda eto gerbron eu cefnogwyr eu hunain yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd y byddai’r gêm yn erbyn Sussex yn arwydd da o le maen nhw arni y tymor hwn.
Gemau’r gorffennol
Y llynedd, tarodd Sam Northeast ganred, gan adael Sussex yn cwrso 359 i ennill oddi ar 113 o belawdau.
Brwydrodd y Saeson yn galed cyn i’r troellwr coes Mitchell Swepson ganfod cymorth yn y llain.
Ond llwyddodd Oli Carter i amddiffyn yn gadarn, gan wynebu 21.2 pelawd gyda Henry Shipley i sicrhau gêm gyfartal.
Yn 2022, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced, wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999.
Bryd hynny, cipiodd y ddau Gymro Simon Jones a Robert Croft bum wiced yr un, cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ar y diwrnod olaf ac ennill o chwe wiced.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan
Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, D Lamb, C Pujara, J Seales
Wiced!
Mir Hamza wedi cael gwared ar Tom Haines, wedi’i ddal gan Andy Gorvin yn y slip am 14.
Sussex 29 am ddwy, ar ei hôl hi o 104.
Dechrau da i Forgannwg.
Wiced i Mir Hamza. Tom Clark â’i goes o flaen y wiced am wyth.
Sussex 22 am un. Ar ei hôl hi o 111.
Batiad Morgannwg wedi dod i ben ar 411.
Mir Hamza wedi’i redeg allan.
Bydd Morgannwg yn dechrau’r trydydd diwrnod ar 411 am naw. Maen nhw ar y blaen o 133 o rediadau.
Mir Hamza a Zain ul Hassan fydd wrth y llain.
Diwrnod mawr i ddod wrth i Forgannwg geisio buddugoliaeth gynta’r tymor.
Morgannwg yn gorffen y diwrnod ar 411 am naw.
Carlson allan am 148.
Partneriaeth o 315 gyda Colin Ingram – yr orau erioed ar gyfer y bumed wiced – ar ben.
Morgannwg 356 am bump.
Amser te.
Morgannwg 271 am bedair.
Ingram 131hfa, Carlson 103hfa.
Ar ei hôl hi o saith rhediad yn unig, a’r ddau fatiwr yn edrych yn gyfforddus.
Canred i Kiran Carlson.
Morgannwg 259 am bedair.
Canred i Colin Ingram. Haeddiannol iawn.
Morgannwg 219 am bedair. Carlson 82 hfa.
Partneriaeth Ingram a Carlson bellach yn werth dros 150.
Ingram 82hfa, Carlson 77hfa.
Morgannwg 196 am bedair.