Mae gan dîm criced Morgannwg fowliwr cyflym arall eto fyth ar gyfer eu taith i Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Ebrill 19).
Mae Brad Wheal wedi ymuno ar fenthyg o Hampshire, a bydd ei gytundeb yn parhau un gêm ar y tro.
Mae Timm van der Gugten, Jamie McIlroy a Harry Podmore allan ag anafiadau, ac mae Craig Miles bellach wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl chwarae un gêm ar fenthyg i’r sir, er mai tair gêm oedd y cytundeb gwreiddiol cyn iddo fe gael ei alw’n ôl.
Ymhlith y batwyr, mae Eddie Byrom allan o hyd, ond fe fydd e’n chwarae i’r ail dîm yr wythnos nesaf wrth frwydro i ddychwelyd i’r tîm cyntaf yn holliach.
Mae Morgannwg wedi brwydro yn eu gemau hyd yn hyn, oddi cartref yn erbyn Middlesex ac wedyn gartref yn erbyn Swydd Derby, ond gorffennodd y ddwy yn gyfartal.
Maen nhw’n bedwerydd yn yr Ail Adran ar hyn o bryd.
Gemau’r gorffennol
Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2021, pan enillodd y tîm cartref ar y diwrnod olaf.
Wrth gwrso 355 i ennill, adeiladodd Ricardo Vasconcelos a Rob Keogh bartneriaeth o 239 mewn 46 pelawd i gipio’r fuddugoliaeth gyda 6.2 pelawd yn weddill.
Y flwyddyn gynt, tarodd Callum Taylor ganred yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, a chyrhaeddodd Marchant de Lange ganred cyflymaf erioed Morgannwg oddi ar 62 o belenni.
Ond y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o chwe wiced yn y gêm undydd yn Nhlws Bob Willis.
Roedd Morgannwg yn fuddugol o fatiad a 143 o rediadau yn 2019, wrth i Billy Root osod y seiliau gyda 229, ei sgôr gorau erioed, wrth i Forgannwg sgorio 547 yn eu batiad cyntaf.
Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 209 a 195 i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg.
Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2012 – hon oedd eu deuddegfed fuddugoliaeth yn Wantage Road mewn criced dosbarth cyntaf.
Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, K Nair, J Sales, B Sanderson, C Tremain, R Vasconcelos, R Weatherall, S Zaib
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, Mir Hamza, M Crane, A Gorvin, A Tribe, B Wheal
Wiced arall ers i’r chwaraewyr ddychwelyd ar ôl y glaw. Chris Cooke allan, a wiced arall i Ben Sanderson. Morgannwg 100 am bump.
Amser te wrth i’r glaw ddychwelyd. Morgannwg 93 am bedair. Partneriaeth o 66 rhwng Chris Cooke a Colin Ingram hyd yn hyn, ac mae’r pâr wedi sefydlogi’r batiad i ryw raddau.
Glaw yn Northampton. Morgannwg 71 am bedair.
Wiced arall!
Morgannwg 27 am bedair, Kiran Carlson wedi’i fowlio gan Raphy Weatherall.
Morgannwg eisoes mewn dyfroedd dyfnion. Sam Northeast allan, wedi’i ddal gan Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio Ben Sanderson. Ail wiced i’r bowliwr. Morgannwg 22 am dair.
Morgannwg wedi colli eu hail wiced. Billy Root allan, wedi’i daro ar ei goes gan Ben Sanderson – ie, y bowliwr yna eto sydd fel pe bai’n perfformio ar ei orau bob gêm yn erbyn y sir Gymreig. 13 am ddwy.
Dechrau siomedig i Forgannwg. Zain Ul Hassan allan am un, wedi’i ddal gan y wicedwr Lewis McManus oddi ar fowlio Chris Tremain am un. Morgannwg 3-1 yn yr ail belawd, gyda Billy Root a Sam Northeast wrth y llain
Tîm Swydd Northampton:
- Ricardo Vasconcelos
- Emilio Gay
- Luke Procter (capten)
- Karun Nair
- George Bartlett
- James Sales
- Saif Zaib
- Lewis McManus
- Raphael Weatherall
- Ben Sanderson
- Chris Tremain
Tîm Morgannwg:
- Billy Root
- Zain ul Hassan
- Sam Northeast (capten)
- Kiran Carlson
- Colin Ingram
- Chris Cooke
- Dan Douthwaite
- James Harris
- Mason Crane
- Brad Wheal
- Mir Hamza
Mae Swydd Northampton wedi galw’n gywir, a bydd Morgannwg yn batio.