Mae gan dîm criced Morgannwg fowliwr cyflym arall eto fyth ar gyfer eu taith i Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Ebrill 19).
Mae Brad Wheal wedi ymuno ar fenthyg o Hampshire, a bydd ei gytundeb yn parhau un gêm ar y tro.
Mae Timm van der Gugten, Jamie McIlroy a Harry Podmore allan ag anafiadau, ac mae Craig Miles bellach wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl chwarae un gêm ar fenthyg i’r sir, er mai tair gêm oedd y cytundeb gwreiddiol cyn iddo fe gael ei alw’n ôl.
Ymhlith y batwyr, mae Eddie Byrom allan o hyd, ond fe fydd e’n chwarae i’r ail dîm yr wythnos nesaf wrth frwydro i ddychwelyd i’r tîm cyntaf yn holliach.
Mae Morgannwg wedi brwydro yn eu gemau hyd yn hyn, oddi cartref yn erbyn Middlesex ac wedyn gartref yn erbyn Swydd Derby, ond gorffennodd y ddwy yn gyfartal.
Maen nhw’n bedwerydd yn yr Ail Adran ar hyn o bryd.
Gemau’r gorffennol
Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2021, pan enillodd y tîm cartref ar y diwrnod olaf.
Wrth gwrso 355 i ennill, adeiladodd Ricardo Vasconcelos a Rob Keogh bartneriaeth o 239 mewn 46 pelawd i gipio’r fuddugoliaeth gyda 6.2 pelawd yn weddill.
Y flwyddyn gynt, tarodd Callum Taylor ganred yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, a chyrhaeddodd Marchant de Lange ganred cyflymaf erioed Morgannwg oddi ar 62 o belenni.
Ond y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o chwe wiced yn y gêm undydd yn Nhlws Bob Willis.
Roedd Morgannwg yn fuddugol o fatiad a 143 o rediadau yn 2019, wrth i Billy Root osod y seiliau gyda 229, ei sgôr gorau erioed, wrth i Forgannwg sgorio 547 yn eu batiad cyntaf.
Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 209 a 195 i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg.
Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2012 – hon oedd eu deuddegfed fuddugoliaeth yn Wantage Road mewn criced dosbarth cyntaf.
Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, K Nair, J Sales, B Sanderson, C Tremain, R Vasconcelos, R Weatherall, S Zaib
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, Mir Hamza, M Crane, A Gorvin, A Tribe, B Wheal
Dechrau siomedig i Forgannwg. Zain Ul Hassan allan am un, wedi’i ddal gan y wicedwr Lewis McManus oddi ar fowlio Chris Tremain am un. Morgannwg 3-1 yn yr ail belawd, gyda Billy Root a Sam Northeast wrth y llain
Tîm Swydd Northampton:
- Ricardo Vasconcelos
- Emilio Gay
- Luke Procter (capten)
- Karun Nair
- George Bartlett
- James Sales
- Saif Zaib
- Lewis McManus
- Raphael Weatherall
- Ben Sanderson
- Chris Tremain
Tîm Morgannwg:
- Billy Root
- Zain ul Hassan
- Sam Northeast (capten)
- Kiran Carlson
- Colin Ingram
- Chris Cooke
- Dan Douthwaite
- James Harris
- Mason Crane
- Brad Wheal
- Mir Hamza
Mae Swydd Northampton wedi galw’n gywir, a bydd Morgannwg yn batio.
Ar ôl archwilio’r cae, mae’r dyfarnwyr Graham Lloyd a Sue Redfern wedi penderfynu dechrau’r gêm am 1.10yp. Newyddion y timau i ddilyn.
Archwiliad pellach am 12 o’r gloch. Cinio cynnar am 12.30yp.
Yn sgil y glaw, bydd archwiliad o’r cae am 11 o’r gloch. Dim newyddion eto am y timau.