Mae Swydd Derby wedi enwi dau Gymro yn y garfan i herio Morgannwg yn y gêm griced gyntaf yng Nghaerdydd yn 2024.
Y gogleddwr amryddawn David Lloyd, oedd wedi gadael y sir Gymreig ar ddiwedd y tymor diwethaf, yw capten y Saeson, tra bod y batiwr Aneurin Donald hefyd wedi’i enwi ymhlith yr 13 chwaraewr yn y garfan.
Dydy’r un ohonyn nhw wedi chwarae gêm dosbarth cyntaf i’r sir eto, a wyneb newydd arall yn y garfan yw Blair Tickner, y bowliwr cyflym o Seland Newydd.
Un arall sydd â chysylltiadau Cymreig yw’r hanner Cymro Luis Reece, fydd yn gobeithio taro’i pumed ac efallai ei chweched canred yn olynol yn erbyn Morgannwg, ar ôl ei record o bartneriaeth o 360 gyda Harry Came y tymor diwethaf.
Bydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu gêm gyfartal yn erbyn Middlesex yng ngêm gynta’r tymor yn Lord’s, pan sgoriodd y capten newydd Sam Northeast 335 heb fod allan, gan dorri’r record am y sgôr gorau erioed ar y cae hanesyddol yn Llundain, gan ragori ar 333 Graham Gooch dros Loegr yn erbyn India yn 1990.
Tarodd Billy Root a Kiran Carlson hanner canred yr un yn y gêm hefyd, gyda Colin Ingram hefyd yn taro canred yn ystod ei bartneriaeth hanesyddol o 299 gyda Northeast am y drydedd wiced.
Dydy’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Harry Podmore ddim ar gael oherwydd anafiadau, tra bod y batiwr agoriadol Eddie Byrom hefyd wedi’i anafu.
Mae’r bowliwr cyflym Craig Miles, oedd wedi ymuno ar fenthyg am dair gêm, wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl un gêm yn unig, ac felly mae’r chwaraewr amryddawn Andy Gorvin wedi’i alw i’r garfan yn ei le.
Mae Morgannwg yn ail yn yr ail adran ar ôl y gêm gyntaf.
Gemau’r gorffennol
Gêm gyfartal gafodd Morgannwg a Swydd Derby yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, a hynny o ganlyniad i’r glaw yn ystod wythnos olaf mis Medi.
Sgoriodd Colin Ingram 82, tra bod Luis Reece wedi taro canred yn y naill fatiad a’r llall am yr ail dro yn olynol yn erbyn y sir Gymreig – y tro cyntaf i unrhyw fatiwr sgorio pedwar canred yn olynol yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2022, pan sgoriodd David Lloyd 313 heb fod allan wrth i Forgannwg sgorio 550 am bump cyn cau’r batiad.
Cipiodd Ajaz Patel, troellwr llaw chwith Seland Newydd, bum wiced i Forgannwg wrth i Swydd Derby orfod canlyn ymlaen, cyn i Wayne Madsen a Leus du Plooy sefydlogi eu tîm gyda phartneriaeth allweddol o 128 mewn 37.5 pelawd.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, D Douthwaite, J Harris, A Gorvin, Mir Hamza, J McIlroy, A Tribe
Carfan Swydd Derby: D Lloyd (capten), H Came, M Lamb, L Reece, A Donald, B Tickner, A Thomson, J Morley, B Guest, Z Chappell, S Conners, A Dal, W Madsen
WICED
Ail wiced i Tickner. Ar ôl yr holl edrych ymlaen at weld Sam Northeast yn ôl wrth y llain yng Nghymru, mae e wedi’i fowlio gan Tickner, sydd wedi cipio’i ail wiced. Mae’r bowliwr cyflym o Seland Newydd yn edrych yn gyflym, yn gywir ac yn beryglus.
WICED
Mae wiced gyntaf 2024 wedi cwympo yng Nghaerdydd. Billy Root wedi’i ddal gan y wicedwr Brooke Guest oddi ar chwip o belen gan Blair Tickner. Morgannwg 31 am un.
Ewch i Sgorfwrdd Cricinfo i gael y diweddaraf
Tîm Morgannwg:
- Zain ul Hassan
- Billy Root
- Sam Northeast (capten)
- Kiran Carlson
- Colin Ingram
- Chris Cooke
- Dan Douthwaite
- James Harris
- Mason Crane
- Mir Hamza
- Jamie McIlroy
Tîm Swydd Derby:
- Harry Came
- Luis Reece
- Brooke Guest
- David Lloyd (capten)
- Wayne Madsen
- Aneurin Donald
- Anuj Dal
- Alex Thomson
- Zak Chappell
- Blair Tickner
- Sam Conners
Swydd Derby wedi galw’n gywir. Morgannwg yn batio. Y gêm yn dechrau am 11.30
Tra ein bod ni’n aros am y criced, daw’r ystadegyn diddorol hwn gan David Griffin o Glwb Criced Swydd Derby: David Lloyd yw’r unfed chwaraewr ar ddeg i arwain y sir yn ei gêm gyntaf iddyn nhw.
Bore da o Erddi Sophia.
Ambell enw i gadw llygad arnyn nhw yng ngharfan Swydd Derby. David Lloyd, cyn-gapten Morgannwg, yw capten yr ymwelwyr. Mae Aneurin Donald, cyn-fatiwr Morgannwg, hefyd ymhlith yr 13. Ac mae Luis Reece hefyd yn hanner Cymro.
Newyddion y timau i ddilyn yn nes ymlaen. Ond dim criced am y tro, a bydd y dyfarnwyr, Neil Bainton a Rob Bailey, yn archwilio’r cae am 11 o’r gloch.