Morgannwg a Swydd Derby yn gyfartal

Y gêm gyntaf yng Nghaerdydd, a Morgannwg yn dal i geisio buddugoliaeth gynta’r tymor

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
golwg360

Sgorfwrdd

Mae Swydd Derby wedi enwi dau Gymro yn y garfan i herio Morgannwg yn y gêm griced gyntaf yng Nghaerdydd yn 2024.

Y gogleddwr amryddawn David Lloyd, oedd wedi gadael y sir Gymreig ar ddiwedd y tymor diwethaf, yw capten y Saeson, tra bod y batiwr Aneurin Donald hefyd wedi’i enwi ymhlith yr 13 chwaraewr yn y garfan.

Dydy’r un ohonyn nhw wedi chwarae gêm dosbarth cyntaf i’r sir eto, a wyneb newydd arall yn y garfan yw Blair Tickner, y bowliwr cyflym o Seland Newydd.

Un arall sydd â chysylltiadau Cymreig yw’r hanner Cymro Luis Reece, fydd yn gobeithio taro’i pumed ac efallai ei chweched canred yn olynol yn erbyn Morgannwg, ar ôl ei record o bartneriaeth o 360 gyda Harry Came y tymor diwethaf.

Bydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu gêm gyfartal yn erbyn Middlesex yng ngêm gynta’r tymor yn Lord’s, pan sgoriodd y capten newydd Sam Northeast 335 heb fod allan, gan dorri’r record am y sgôr gorau erioed ar y cae hanesyddol yn Llundain, gan ragori ar 333 Graham Gooch dros Loegr yn erbyn India yn 1990.

Tarodd Billy Root a Kiran Carlson hanner canred yr un yn y gêm hefyd, gyda Colin Ingram hefyd yn taro canred yn ystod ei bartneriaeth hanesyddol o 299 gyda Northeast am y drydedd wiced.

Dydy’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Harry Podmore ddim ar gael oherwydd anafiadau, tra bod y batiwr agoriadol Eddie Byrom hefyd wedi’i anafu.

Mae’r bowliwr cyflym Craig Miles, oedd wedi ymuno ar fenthyg am dair gêm, wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl un gêm yn unig, ac felly mae’r chwaraewr amryddawn Andy Gorvin wedi’i alw i’r garfan yn ei le.

Mae Morgannwg yn ail yn yr ail adran ar ôl y gêm gyntaf.

Aneurin Donald

Gemau’r gorffennol

Gêm gyfartal gafodd Morgannwg a Swydd Derby yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, a hynny o ganlyniad i’r glaw yn ystod wythnos olaf mis Medi.

Sgoriodd Colin Ingram 82, tra bod Luis Reece wedi taro canred yn y naill fatiad a’r llall am yr ail dro yn olynol yn erbyn y sir Gymreig – y tro cyntaf i unrhyw fatiwr sgorio pedwar canred yn olynol yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2022, pan sgoriodd David Lloyd 313 heb fod allan wrth i Forgannwg sgorio 550 am bump cyn cau’r batiad.

Cipiodd Ajaz Patel, troellwr llaw chwith Seland Newydd, bum wiced i Forgannwg wrth i Swydd Derby orfod canlyn ymlaen, cyn i Wayne Madsen a Leus du Plooy sefydlogi eu tîm gyda phartneriaeth allweddol o 128 mewn 37.5 pelawd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, D Douthwaite, J Harris, A Gorvin, Mir Hamza, J McIlroy, A Tribe

Carfan Swydd Derby: D Lloyd (capten), H Came, M Lamb, L Reece, A Donald, B Tickner, A Thomson, J Morley, B Guest, Z Chappell, S Conners, A Dal, W Madsen

12:10

David Lloyd, cyn-gapten Morgannwg, allan am 60 yn erbyn ei hen sir. Wiced gyntaf i’r troellwr coes Mason Crane, sydd ar fenthyg o Hampshire, wrth daro coes y batiwr o flaen y wiced. Morgannwg 83-2.

11:47

DIWRNOD 2

Wrth ddychwelyd i’w hen sir, mae’r Cymro David Lloyd wedi taro hanner canred i’w dîm newydd, gan gyrraedd y garreg filltir ar yr ail fore. Mae’r ymwelwyr yn 69 am un wrth ymateb i 237 y tîm cartref.

19:11

Diwedd y diwrnod cyntaf. Swydd Derby 46-1 (Morgannwg 237)

18:24

WICED

Luis Reece allan heb sgorio, wedi’i fowlio gan James Harris. Swydd Derby 2-1. David Lloyd yw’r batiwr newydd wrth y llain.

18:03

WICED

Seithfed wiced Thomson yn dirwyn batiad Morgannwg i ben. Perfformiad arbennig gan y troellwr. Morgannwg i gyd allan am 237. Dechrau siomedig i’r sir Gymreig.

17:48

WICED

Yn dynn ar sodlau Douthwaite mae Jamie McIlroy, wedi’i fowlio gan Sam Conners. Nawfed wiced wedi cwympo. Morgannwg 229-9

17:43

WICED

Morgannwg: 224-8 erbyn hyn. Dan Douthwaite allan. Chweched wiced i’r troellwr Thomson gyda daliad oddi ar ei fowlio’i hun.

17:17

WICEDI

Morgannwg wedi colli dwy wiced arall: 209-7. Chris Cooke a James Harris allan. Pum wiced i Thomson erbyn hyn.

16:46

Morgannwg wedi colli eu pumed wiced. Ingram allan am 30, a thrydedd wiced i Thomson. Morgannwg 190-5

16:04

Amser te. Morgannwg 172-4. Colin Ingram 24 heb fod allan, Chris Cooke 8 heb fod allan. O ganlyniad i’r oedi bore ’ma, bydd y sesiwn olaf ychydig yn hirach na’r arfer, gyda 40 pelawd yn weddill i’w bowlio.