Mae Swydd Derby wedi enwi dau Gymro yn y garfan i herio Morgannwg yn y gêm griced gyntaf yng Nghaerdydd yn 2024.
Y gogleddwr amryddawn David Lloyd, oedd wedi gadael y sir Gymreig ar ddiwedd y tymor diwethaf, yw capten y Saeson, tra bod y batiwr Aneurin Donald hefyd wedi’i enwi ymhlith yr 13 chwaraewr yn y garfan.
Dydy’r un ohonyn nhw wedi chwarae gêm dosbarth cyntaf i’r sir eto, a wyneb newydd arall yn y garfan yw Blair Tickner, y bowliwr cyflym o Seland Newydd.
Un arall sydd â chysylltiadau Cymreig yw’r hanner Cymro Luis Reece, fydd yn gobeithio taro’i pumed ac efallai ei chweched canred yn olynol yn erbyn Morgannwg, ar ôl ei record o bartneriaeth o 360 gyda Harry Came y tymor diwethaf.
Bydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu gêm gyfartal yn erbyn Middlesex yng ngêm gynta’r tymor yn Lord’s, pan sgoriodd y capten newydd Sam Northeast 335 heb fod allan, gan dorri’r record am y sgôr gorau erioed ar y cae hanesyddol yn Llundain, gan ragori ar 333 Graham Gooch dros Loegr yn erbyn India yn 1990.
Tarodd Billy Root a Kiran Carlson hanner canred yr un yn y gêm hefyd, gyda Colin Ingram hefyd yn taro canred yn ystod ei bartneriaeth hanesyddol o 299 gyda Northeast am y drydedd wiced.
Dydy’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Harry Podmore ddim ar gael oherwydd anafiadau, tra bod y batiwr agoriadol Eddie Byrom hefyd wedi’i anafu.
Mae’r bowliwr cyflym Craig Miles, oedd wedi ymuno ar fenthyg am dair gêm, wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl un gêm yn unig, ac felly mae’r chwaraewr amryddawn Andy Gorvin wedi’i alw i’r garfan yn ei le.
Mae Morgannwg yn ail yn yr ail adran ar ôl y gêm gyntaf.
Gemau’r gorffennol
Gêm gyfartal gafodd Morgannwg a Swydd Derby yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, a hynny o ganlyniad i’r glaw yn ystod wythnos olaf mis Medi.
Sgoriodd Colin Ingram 82, tra bod Luis Reece wedi taro canred yn y naill fatiad a’r llall am yr ail dro yn olynol yn erbyn y sir Gymreig – y tro cyntaf i unrhyw fatiwr sgorio pedwar canred yn olynol yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2022, pan sgoriodd David Lloyd 313 heb fod allan wrth i Forgannwg sgorio 550 am bump cyn cau’r batiad.
Cipiodd Ajaz Patel, troellwr llaw chwith Seland Newydd, bum wiced i Forgannwg wrth i Swydd Derby orfod canlyn ymlaen, cyn i Wayne Madsen a Leus du Plooy sefydlogi eu tîm gyda phartneriaeth allweddol o 128 mewn 37.5 pelawd.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, D Douthwaite, J Harris, A Gorvin, Mir Hamza, J McIlroy, A Tribe
Carfan Swydd Derby: D Lloyd (capten), H Came, M Lamb, L Reece, A Donald, B Tickner, A Thomson, J Morley, B Guest, Z Chappell, S Conners, A Dal, W Madsen
WICED
Morgannwg wedi colli eu pumed wiced ar 114. Mason Crane allan, wiced arall i Thomson – ei unfed ar ddeg yn y gêm. All Ingram a Chris Cooke achub y batiad i Forgannwg?
DIWRNOD 3
Bore da o Gaerdydd. Morgannwg wedi dechrau’r trydydd diwrnod ar 74 am bedair – 113 ar y blaen i Swydd Derby. Colin Ingram a Mason Crane sydd wrth y llain, ac os yw ddoe yn arwydd o’r hyn sydd i ddod eto heddi, gallen ni weld Alex Thomson yn cael rhagor o hwyl. Mae gan y troellwr ddeg wiced yn yr ornest hyd yma.
Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, mae Morgannwg yn 74 am bedair – ar y blaen o 113. Mae Alex Thomson wedi cipio tair allan o’r pedair wiced, ac mae ganddo fe ddeg yn y gêm hyd yn hyn. Naill ffordd neu’r llall, mae’n debygol y bydd yr ornest yn dod i ben fory (dydd Sul) ar y trydydd diwrnod.
WICED
Trydedd wiced i Swydd Derby ac i Alex Thomson. Deg wiced yn y gêm i’r troellwr. Morgannwg 54-3, Kiran Carlson allan. Y sir Gymreig ar y blaen o 93.
Morgannwg 27 am ddwy – y ddwy wiced i Alex Thomson. Zain Ul Hassan a Sam Northeast allan.
Yn gynharach, Swydd Derby i gyd allan am 198. Blaenoriaeth batiad cyntaf o 39 gan y sir Gymreig, felly.
Swydd Derby 151-5. Y Cymro Aneurin Donald allan am 7. Hanner canred i Wayne Madsen
Amser cinio: Swydd Derby 117 am dair.
Harry Came oedd y trydydd batiwr allan, am 25. Ail wiced i James Harris, sydd wedi ildio dim ond 14 rhediad mewn 14 pelawd ac wedi bowlio wyth pelawd ddi-sgôr.
David Lloyd, cyn-gapten Morgannwg, allan am 60 yn erbyn ei hen sir. Wiced gyntaf i’r troellwr coes Mason Crane, sydd ar fenthyg o Hampshire, wrth daro coes y batiwr o flaen y wiced. Morgannwg 83-2.
DIWRNOD 2
Wrth ddychwelyd i’w hen sir, mae’r Cymro David Lloyd wedi taro hanner canred i’w dîm newydd, gan gyrraedd y garreg filltir ar yr ail fore. Mae’r ymwelwyr yn 69 am un wrth ymateb i 237 y tîm cartref.
Diwedd y diwrnod cyntaf. Swydd Derby 46-1 (Morgannwg 237)