Buddugoliaeth i Swydd Gaerloyw

Ergyd chwech oddi ar belen ola’r ornest

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn awyddus i daro’n ôl ar ôl crasfa gan Wlad yr Haf yn Taunton y penwythnos diwethaf, wrth iddyn nhw groesawu eu cymdogion Swydd Gaerloyw i Gaerdydd heno (nos Iau, Mehefin 20).

Bydd y ddau dîm yn cystadlu am Dlws Mon Motors ar ddiwedd yr ornest sy’n cael ei hadnabod wrth yr enw ‘Brwydr y Bont’.

Mae Swydd Gaerloyw un pwynt ac un safle uwchlaw Morgannwg yn y tabl, ac mae’r sir Gymreig wedi ennill dwy gêm a cholli tair, gydag un wedi dod i ben heb ganlyniad oherwydd y tywydd.

Daeth y buddugoliaethau yn erbyn Middlesex yn Lord’s a Sussex yng Nghaerdydd.

Ond fe gawson nhw grasfa o 108 o rediadau yn Taunton, a chael eu bowlio allan am 85.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn eu dwy gêm ugain pelawd, gartref ac oddi cartref, yn erbyn Swydd Gaerloyw y tymor diwethaf.

Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 6.30yh.

‘Ceisio ymateb’

Ar ôl heno, bydd Morgannwg yn teithio i’r Oval nos fory (nos Wener, Mehefin 21) ar gyfer eu hail gêm mewn dwy noson.

Yn ôl Grant Bradburn, fu’n siarad â golwg360 yn Taunton, mae’r gemau’n gyfle i roi’r canlyniad yn erbyn Gwlad yr Haf y tu ôl iddyn nhw.

“Dyna’r peth hyfryd am griced, yn enwedig y gêm sirol – sy’n newydd i fi o ran hyfforddi yn y wlad hon,” meddai.

“Mae’r gemau’n dod yn gyflym, felly mae tueddiad i ni ymlwybro a symud o un gêm i’r llall. Rydyn ni wedi siarad dipyn am hynny.

“Rydyn ni’n dîm sydd eisiau dysgu a thyfu o bob profiad, da neu ddrwg, a byddwn ni’n sicr yn ceisio taro’n ôl.

“Byddwn ni’n myfyrio ar y pethau wnaethon ni’n dda, ac roedd digon o’r rheiny yn ein batiad cyntaf.

“A byddwn ni’n ceisio gwella a dod o hyd i fformiwla i fatio’r ffordd rydyn ni eisiau batio yn y fformat yma.

“Rydyn ni wedi ennill dwy gêm yn y gystadleuaeth ac wedi dod yn agos mewn gemau eraill, ond dydyn ni ddim wedi batio cystal ag yr oedden ni eisiau yma.

“Byddwn ni’n gweithio’n galed ac yn trafod sut i roi’r cyfan at ei gilydd yn well.

“Mae ein carfan wedi ymarfer gydag awch yr wythnos hon, wrth i ni geisio ymateb i berfformiad ddydd Sul yn Taunton doedden ni’n sicr ddim yn falch ohono.

“Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddod â mwy o gryfderau ein sgiliau ni i bob agwedd ar y gêm, gan bwyllo mwy.

“Rydyn ni wedi cyffroi fel grŵp o fod yn ôl yng Ngerddi Sophia gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr cartref.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

Carfan Swydd Gaerloyw: J Taylor, C Bancroft, J Shaw, G van Buuren, D Payne, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, Ajeet Singh Dale, B Charlesworth, O Price, M Hammond, M de Lange

22:02

Wrth siarad â’r wasg, mae Kiran Carlson, capten Morgannwg, wedi crynhoi’n berffaith y daliadau gafodd eu gollwng.

“Mae gollwng daliadau’n digwydd. Ond dydych chi ddim fel arfer yn eu gollwng nhw i gyd o fewn deng munud i’w gilydd!”

Noson fawr ar yr Oval nos fory i Forgannwg, gyda gêm bwysig yn erbyn Surrey.

Nos da!

21:25

Buddugoliaeth i Swydd Gaerloyw o ddwy wiced!

Chwech oddi ar y belen olaf i Josh Shaw. Sut ar wyneb y ddaear mae Morgannwg wedi colli honna?!

21:24

Daliad arall wedi’i ollwng!

Pump i ennill oddi ar y belen olaf….

21:23

WICED!

Jack Taylor wedi’i redeg allan gan Sam Northeast, a’r batiwr yn taflu ei fat i’r awyr yn ei dymer.

Josh Shaw yw’r batiwr newydd.

Swydd Gaerloyw 134 am wyth. Saith i ennill, dwy belen i ddod…

21:22

Wyth i ennill. Tair pelen i ddod…

21:20

11 sydd ei angen ar Swydd Gaerloyw i ennill. Andy Gorvin fydd yn ei bowlio hi.

Marchant de Lange yn wynebu’r belen gyntaf…

21:15

Mae Morgannwg wedi gollwng dau ddaliad mewn dwy belawd, y naill gan Kiran Carlson a’r llall gan Jamie McIlroy. Y ddau oddi ar fowlio Mason Crane. Gall camgymeriadau o’r fath gostio’n ddrud…

Swydd Gaerloyw 114 am saith. 27 i ennill oddi ar ddwy belawd, neu ddeuddeg pelen…

21:13

Hanner canred i Jack Taylor. Mae llygedyn o obaith gan yr ymwelwyr o hyd, gyda dwy belawd a hanner i ddod.

29 arall i ennill.

21:12

Douthwaite newydd ildio 21 oddi ar yr ail belawd ar bymtheg.

Swydd Gaerloyw 111 am saith. Tair pelawd i ddod, 30 i ennill.

21:07

WICED!

Jack Taylor wedi’i ddal gan McIlroy ar y ffin agored, wrth yrru Andy Gorvin yn syth. Marchant de Lange, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yw’r batiwr newydd.

Swydd Gaerloyw 90 am saith ar ôl 16 pelawd. Mae angen 51 arall arnyn nhw. Pedair pelawd i ddod.