Yr un yw maint y cae, uchder y pyst a siâp y bêl, ond gydag ystadegau yn dangos bod pob un o’r gwledydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn tan berfformio oddi cartref, faint o fantais sydd o chwarae gartref yn y gystadleuaeth?
Cymru v Ffrainc
Ar ôl colli yn Nulyn yn erbyn y Gwyddelod bydd Cymru yn wynebu’r Ffrancwyr yng Nghaerdydd y penwythnos yma. Er nad yw Ffrainc wedi ennill yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, maen nhw wedi ennill 50% o’u gemau oddi cartref yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad.
Mae Cymru hefyd yn un o’r gwledydd sy’n perfformio waethaf gartref, gan ennill 66% o’u gemau cartref yn y bencampwriaeth. Bydd y Ffrancwyr felly, ynghyd â chyn-hyfforddwr amddiffynnol Cymru Shaun Edwards, yn awyddus iawn i brofi pwynt y penwythnos hwn – yn enwedig ar ôl i Gymru guro Ffrainc o drwch blewyn yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd y llynedd.
Yr Eidal v Yr Alban
Dydy hi’n fawr o syndod mai’r Eidal yw’r wlad sy’n perfformio waethaf gartref ac oddi cartref yn y bencampwriaeth. Er hyn, mae’r Eidalwyr wedi curo’r Alban bum gwaith yn Rhufain yn y gystadleuaeth, gan gynnwys yn 2015 pan brofodd yr Eidal eu buddugoliaeth ddiwethaf yn y bencampwriaeth.
Dyma gyfle gorau’r Eidal, felly, ar ôl colli 24 o gemau yn olynol yn y Chwe Gwlad, i adfer peth hunan-barch, a phrofi eu bod nhw’n haeddu eu lle yn y gystadleuaeth.
Lloegr v Iwerddon
Yn ystadegol, Twickenham yw’r lle mwyf anodd i chwarae oddi cartref gyda Lloegr yn ennill 84% o’u gemau cartref yn y Chwe Gwlad. Iwerddon sy’n teithio yno’r penwythnos yma, ond nhw hefyd yw’r tîm sy’n teithio orau yn y gystadleuaeth gan ennill 56% o’u gemau oddi cartref.
Heb os, bydd y frwydr deuluol rhwng Andy Farrell, prif hyfforddwr Iwerddon, a’i fab Owen, capten Lloegr, yn un o uchafbwyntiau’r penwythnos, gyda’r tad yn ceisio efelychu llwyddiant y Gwyddelod ddwy flynedd yn ôl pan enillodd Iwerddon o 15-24 yn erbyn Lloegr yn Twickenham.
Ennill gemau cartref yn y Chwe Gwlad:
Lloegr: 84%
Iwerddon: 76%
Ffrainc: 74%
Cymru: 66%
Yr Alban: 40%
Yr Eidal: 20%
Ennill gemau oddi cartref yn y Chwe Gwlad:
Iwerddon: 56%
Lloegr: 54%
Cymru: 48%
Ffrainc: 48%
Yr Alban: 14%
Yr Eidal: 4%