Blog bach amser cinio gan Dylan Iorwerth

Mae pawb ohonon ni’n gwneud camgymeriadau iaith. Jyst nad ydi pawb yn cydnabod hynny.

Mae’r plismyn iaith hefyd yn gallu gwneud niwed mawr i hyder pobol trwy ymosod ar fân frychau neu fathau newydd o ddweud sy’n ddiarth iddyn nhw.

Ond weithiau, mae’n rhaid tynnu llinell – o leia’ dair a dweud y gwir. Un ydi llinell rhag ffurfiau sy’n troi’r Gymraeg yn fersiwn o’r Saesneg, efo geiriau gwahanol.

Mae’r ddwy arall yn ymwneud â geiriau – geiriau newydd, gwirion, diangen sy’n treiddio i mewn i’r iaith a geiriau pwysig sy’n cael eu colli.

‘Neb’ ydi un o’r rheiny. Roedd yna fwletin y diwrnod o’r blaen yn dweud nad oedd unrhyw un wedi ei frifo.

Mae neb yn air Cymraeg sy’n cynnwys haenau o ystyr sydd y tu hwnt i’r “anyone” Saesneg a’r “no-one” hefyd. Nid dim ond gair negyddol ydi o ac mi fyddai ei golli yn tlodi’r iaith.

Ar y llaw arall, mi allwn ni ddathlu bod gynnon ni air newydd sbon-ish. ‘Hwb’ ydi’r chwiw ddiweddara’. Nid yn yr ystyr iawn o annog neu hyrwyddo ond i gyfieithu ‘hub’ yn Saesneg.

Mae ‘hwbiau’ yn cael eu sefydlu yma ac acw ar hyd y wlad, er mwyn bod yn ganolbwynt i wybodaeth neu weithgareddau.

Mae’r defnydd o’r gair Saesneg, wrth gwrs, yn codi o’r syniad o ganol olwyn ac mae gynnon ni air Cymraeg am hwnnw hefyd.

Mae ei droi o’n air Cymraeg yn dangos y peryg cynyddol fod ein hiaith yn troi’n iaith wedi’i chyfieithu – o sgriptiau teledu i ddogfennau swyddogol mae yna beryg mai carreg ateb o iaith fydd hi. A dyna’r wers hefyd wrth golli gair fel ‘neb’

Pan o’n i’n troi mewn cylchoedd coman, roedd gan ‘rhoi hwb’ ystyr arall. Ac roedd yn perthyn yn agos iawn i’r hyn y mae rhai pobol yn trio’i wneud i’r iaith Gymraeg.