Blog bach ar ôl cinio gan Dylan Iorwerth

Efo’r sylw’n ddealladwy ar farwolaeth Carl Sargeant, mae yna beryg i ni anghofio am y stori fawr arall – y sgandal osgoi trethi.

Mae yna fawrion – o’r Frenhines i actorion comedi, o bencampwyr chwaraeon cyfoethog iawn i gwmnïau anferth rhyngwladol wedi cael eu dal yn osgoi talu trethi.

Ffordd arall o ddweud hynny ydi eu bod nhw wedi cael eu dal yn dwyn oddi arnon ni, yn tlodi ein gwasanaethau cyhoeddus ni ac yn gwrthod cymryd eu cyfrifoldeb teg.

Mae’r esgusodion yn dweud cyfrolau.

Dyw’r Frenhines a’r Tywysog Charles ddim yn gyfrifol am eu materion ariannol eu hunain – ymgynghorwyr sy’n penderfynu. Ond mi all y Teulu Brenhinol roi cyfarwyddiadau a dyma ddylai un o’r rheiny fod: sicrhewch ein bod ni’n talu pob treth heb drio osgoi.

Allwn ni, bobol gyffredin, ddim osgoi cyfrifoldeb at gyfraith trwy esgus nad oedden ni’n gwybod neu nad oedden ni’n gyfrifol.

(Mae yna gwestiwn, wrth gwrs, pam y dylai’r Teulu Brenhinol gael cymaint o gyfoeth personol beth bynnag gan mai wedi ei gymryd oddi ar y cyhoedd tros y canrifoedd y mae’r rhan fwya’ ohono.)

Esgus yr unigolion eraill, eu cyfrifwyr a’r cwmnïau mawr, rhyngwladol, ydi fod eu holl weithredoedd yn gyfreithlon. Ydyn, wrth gwrs, achos mae’r cyfreithiau wedi eu llunio er mwyn rhoi mantais i bobol fel nhw.

Mewn cyfnod pan mae pobol wirioneddol dlawd yn diodde’ oherwydd newidiadau mewn budd-daliadau, mi ddylai sgandal fel hyn danio pobol … nid i daro’n wyllt yn erbyn y drefn ond i dargedu eu dicter, at y system sy’n caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd a’r bobol sy’n manteisio.

Cam-ddefnydd arall o rym ydi hwn, cam-ddefnydd o rym ariannol. Papurau Paradwys. Paradwys i rai.

Tydi gofyn i’r osgowyr treth ymddiheuro ddim yn ddigon chwaith – gormod o ymddiheuro sydd y dyddiau yma a dim digon o osgoi gwneud cam yn y lle cynta’.