Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Doedd hi’n ddim syndod bod rhai wedi dechrau cwyno bod helynt yr aflonyddu rhywiol yn mynd yn rhy bell. A doedd hi’n ddim syndod chwaith mai merched a ddechreuodd ddweud hynny.

Y neges an-annisgwyl ydi fod yna wahaniaeth mawr rhwng rhoi llaw ar ben-glin merch neu wneud sylw rhywiol, ar un llaw, a thrais rhywiol ‘go iawn’ ar y llall.

Mae yna wahaniaeth o ran difrifoldeb y gwahanol weithredoedd – ac mi ddylai hynny ddangos yn y math o gosb y dylai’r dynion ei chael – ond yn eu hanfod, yr un ydi’r gwraidd.

Does a wnelo hyn ddim â dynion yn ffansïo merched neu ferched yn ffansïo dynion; does a wnelo fo ddim ag aelodau seneddol yn cael affêrs efo’i gilydd. Y broblem ydi cam-ddefnydd o rym.

Yr hyn sy’n gyffredin yn yr holl honiadau hyd yn hyn ydi mai rhywun grymus sydd wedi gweithredu a rhywun llawer llai grymus wedi diodde’. Nid cyd-ddigwyddiad ydi hynny.

Mae hanes cam-drin rhywiol o bob math yn dangos dro ar ôl tro ei fod yn digwydd pan fydd yna anghyfartaledd grym a’r troseddwr mewn sefyllfa i allu manteisio ar hynny.

Er mwyn atal y troseddau mwya’ difrifol, mae’n rhaid newid yr agweddau sy’n arwain at y rhai llai. Y peryg fel arall, ydi y gall gweithredoedd bach ddatblygu’n rhai mwy difrifol.

O ystyried hynny, os ydi hi’n wir fod y Prif Weinidog, Theresa May, wedi cael gwybod bod ei chwipiaid yn defnyddio honiadau o aflonyddu rhywiol er mwyn sicrhau pleidleisiau, mi ddylai hithau ddilyn Michael Fallon a mynd.

Mae’n ymddangos bod rhai pobol yn cysylltu grym a rhyw ac, er fod ambell eithriad – fel mewn cam-drin domestig, er enghraifft – dynion sy’n tramgwyddo amla’.

Mae hynny’n awgrymu bod yna ddiffyg cydbwysedd o hyd rhwng y ddau ryw. Yn y cyd-destun hwnnw hefyd, mae agweddau at bethau bach yn gallu golygu mwy.