Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Mae yna rywbeth eironig fod yna helfa fawr i drio dal cath wyllt Ceredigion; eironig am fod rhai pobol eisiau gweld anifeiliaid o’r fath yn cael eu cyflwyno eto yng nghefn gwlad Cymru.

Yn ôl yr heddlu, mi allai’r lyncs ymosod ar anifeiliaid fferm neu anifeiliaid anwes ond, os na fydd rhywun yn ei bygwth, fydd hi ddim yn beryg i bobol.

Yr anifeiliaid eraill sy’n cael eu hystyried o dro i dro ydi’r afanc – sydd wedi ei gyflwyno’n arbrofol yn ne-orllewin Lloegr – a’r blaidd. Y ddadl ydi eu bod nhw’n anifeiliaid brodorol ac y gallen nhw helpu i adfer hen gydbwysedd byd natur.

Nid yr anifeiliaid ydi’r broblem ond y ffaith fod y byd o’u cwmpas wedi newid yn llwyr ers  pan oedden nhw’n crwydro’n wyllt yn fforestydd a mynyddoedd Cymru. A dyna pam fod y drafodaeth am ailgyflwyno hen anifeiliaid yn ychydig o sgwarnog (os maddeuwch chi’r gair).

Y gwir ydi y byddai’n llawer pwysicach canolbwyntio ar sicrhau bod y sgwarnog yn gallu goroesi; hi ydi un o’r creaduriaid a allai ddiflannu os na fydd pethau’n newid.

Mae yna adroddiadau diweddar yn awgrymu y gallai argyfwng byd natur fod yn llawer mwy nag yr yden ni wedi ei ddeall efo bygythiad i bryfetach ac ansawdd pridd. Y naill a’r llall, meddai’r arbenigwyr, mewn peryg o chwalu ffrwythlonder y ddaear ac, yn sgil hynny, bioamrywiaeth hefyd.

Does dim llawer o amheuaeth fod a wnelo dulliau modern o ffermio lawer â hyn, yn arbennig lle mae yna ffermio dwys a defnydd trwm o gemegau. Y tro yma, nid ffermwyr eu hunain ydi’r broblem ond ein disgwyliadau ni a’r systemau yr yden ni wedi eu creu o gwmpas y diwydiant.

Mi fydd rhaid newid ac mi allai hynny, o’i wneud yn y ffordd iawn, fod o fudd yn y pen draw i ffermydd bychain Cymru. Ond nid ailgyflwyno hen anifeiliaid ydi’r ateb ar hyn o bryd.

Mi fyddai’n eironi mawr iawn petai gynnon ni lyncs a blaidd, ond dim byd iddyn nhw’i fwyta.