Llun alvesgaspar CCA3.0
Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Mae’r sgandal ddiweddara’ am gostau Tŷ’r Arglwyddi yn dangos bod angen newid y lle.

Ond mae hynny hefyd yn gyfle i greu newid mwy a chynnwys yr Ail Siambr mewn setliad newydd ar gyfer y system wleidyddol gyfan.

  • Y sgandal gynta’ ydi fod mwy na 100 o Arglwyddi yn gallu mynd blwyddyn gyfan heb ddweud gair yn y siambr.
  • Yr ail ydi bod rhai ohonyn nhw wedi hawlio costau er na wnaethon nhw ddweud na gwneud dim, heblaw am ambell bleidlais.
  • Y drydedd ydi bod dau – gan gynnwys un o Gymru – wedi hawlio arian er na wnaethon nhw hyd yn oed bleidleisio. Cannoedd oedd y ffigwr ond cannoedd am wneud dim o werth.

Y ddamcaniaeth ydi mai dim ond unwaith bob canrif y bydd yna newid sylfaenol yn Nhŷ’r Arglwyddi – gan fod yna ddiwygio wedi bod ar droad y ganrif, mae angen cyflymu’r broses.

Y tro hwnna – a sawl tro o’r blaen – doedd y diwygio ddim hanner cymaint â’r addewid gwreiddiol; mae gwleidyddion yn ofni gweithredu yn erbyn y Tŷ annemocrataidd.

Mae angen ail siambr – mae gwaith caled arglwyddi o Gymru tros fesurau datganoli wedi dangos hynny – ond nid fel y mae ar hyn o bryd.

Newid

Mi fyddai newid y cartre’ hen bobol ar lan afon Tafwys yn siambr ddemocrataidd hefyd yn rhoi cyfle i gael trefn ar berthynas gwledydd Prydain â’i gilydd.

Mi allai fod yn siambr ‘Brydeinig’ gyda phob un o’r pedair gwlad yn berchen ar ei senedd ei hun, yn cael ei ethol trwy bleidlais gyfrannol o blith pobol sydd wedi gweithio mewn maes arall am, dywedwch, o leia’ ddeng mlynedd.

Mi allai pob senedd ddatganoledig gael ei fersiwn fach yn ail siambr i graffu ar waith y gynta’, a’r cynrychiolwyr hynny wedyn yn eistedd yn y siambr Brydeinig.

House of Lords oedd enw’r hen bobol am dai bach. Beth bynnag am y manylion; mae’r egwyddor yn glir – bellach, mae’n rhaid cael newid.