Wrth i’r pryder dyfu am gynnydd yn nifer achosion o’r feirws corona mewn sawl rhan o Loegr – a Wrecsam yng Nghymru – mae’r sôn wedi troi at ofyn i bobol hŷn warchod eu hunain unwaith eto.

Peth anodd ei dderbyn fydd hynny wrth weld y lluniau bob dydd o bobol iau yn mwynhau ar draethau ac mewn tafarndai gan anwybyddu’r arferion da a ddatblygwyd yn wythnosau cynta’r pandemig.

Dydi strydoedd trefi gwyliau Cymru ddim wedi bod lawer gwahanol – os ydi ymwelwyr yn dod o’r ochr arall i’r ffin, mae’n ymddangos eu bod nhw’n cadw at reolau Lloegr o ran pellter (un metr nid dau) ac at reolau Cymru wrth osgoi gwisgo mygydau mewn siopau.

Yr oedrannus yn talu’r pris?

Fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y tro yma ddim yn gallu cyhuddo’u beirniaid o ddoethineb hwyr; mae digonedd o arbenigwyr a phobol gyffredin wedi rhybuddio bod y cyfyngiadau’n cael eu codi’n rhy gyflym ac anhrefnus.

Erbyn hyn, mae’n bosib cwrdd a chymysgu efo dieithriaid mewn tafarndai ond dydi hi ddim yn bosib mynd i weld rhywun annwyl mewn ysbyty.

Os bydd ein hymddygiad ni, a phobol iau, a phenderfyniadau llywodraeth, yn arwain at don arall o’r pandemig, yna mae’n ymddangos mai pobol oedrannus fydd yn gorfod talu’r pris unwaith eto.

Dim ond rŵan y mae’n dod yn bosib ymweld â phreswylwyr cartrefi gofal ac, yng Nghymru o leia’, mae’r rheolau caeth ar gyfer pobol tros 70 oed yn parhau am fwy nag wythnos arall. Wrth i’r gweddill ohonon ni ddechrau mwynhau ychydig o ryddid, dydi’r genhedlaeth hŷn ddim yn cael rhannu’r pleser.

Mae’n anodd dychmygu pa mor anodd ydi hi wedi bod i bobol oedrannus fynd am bron chwech mis heb weld eu teuluoedd a’u ffrindiau. I rai sydd yn ddryslyd eu meddwl, mi allai wneud y gwahaniaeth rhwng dal gafael a cholli tir.

Ynysu nid caethiwo

Mae yna filoedd ar filoedd, bownd o fod, sydd wedi dirywio o ran iechyd; rhai o bosib wedi eu gyrru’n wael gan yr unigrwydd a’r diflastod. Mae yna eraill sydd wedi marw heb i hyd yn oed eu plant gael y cyfle i fod yno wrth eu hochr.

Mi fydd yna gartrefi wedi gwneud gwaith arwrol; mi fydd yna eraill yn llai gofalus ond, os bydd y cyfyngiadau’n tynhau eto, mynd yn fwy anodd wnaiff hi i sicrhau bod y trigolion yn cael chwarae teg.

Os daw yna ail don, wrth gwrs y bydd rhaid gwarchod y bobol fwya’ bregus – ond nid trwy eu caethiwo eto. Mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd sydd am ganiatáu iddyn nhw fwynhau’r blynyddoedd sydd ar ôl… blynyddoedd sy’n fwy gwerthfawr wrth brinhau.

Yr ateb gorau fyddai i’r gweddill ohonon ni ymddwyn yn gall a pharchu’r egwyddorion syml o gadw pellter a bod yn ofalus ac i lywodraethau gael gafael gwirioneddol ar profi a dilyn y clefyd – ynysu’r salwch nid caethiwo’r to hŷn.