Wrth wylio aelodau Llafur yn mynd ati i ddewis arweinydd newydd, mae agweddau llawer o ddilynwyr Jeremy Corbyn yn ymylu ar fod yn anghredadwy.

Iddyn nhw, roedd ei arweinyddiaeth yn gymaint o lwyddiant fel mai’r maen prawf pwysicaf wrth ddewis ei olynydd ydi pa un fydd yn aros fwyaf triw i’w ddaliadau a’i bolisïau. Nid pwy a fyddai fwyaf tebygol o allu peri gofid i Boris Johnson, neu â’r siawns orau o arwain Llafur i fuddugoliaeth, ond pa un fydd bellaf i’r chwith yn wleidyddol.

Ar ôl etholiad cwbl druenus, sydd wedi rhoi pum mlynedd o rym dilyffethair i Boris Johnson, mae dilynwyr Jeremy Corbyn yn ceisio’n cysuro trwy ddweud eu ‘bod nhw wedi ennill y ddadl’.

Y cwestiwn sy’n rhaid ei ofyn am y bobl yma ydi: ar ba blaned maen nhw’n byw?

Diffiniadau anfoddhaol

I’r mwyafrif o bobl, termau cyffredinol ac amwys iawn ydi’r labeli o fod ar y ‘chwith’ neu’r ‘dde’ yn wleidyddol. Gan eu bod nhw wedi eu gwreiddio mewn cyfnod gwahanol, maen nhw wedi mynd yn ffordd fwyfwy anfoddhaol o ddiffinio setiau o ddaliadau a gwerthoedd gwleidyddol.

Mae agweddau at yr Undeb Ewropeaidd dros y tair blynedd ddiwethaf, er enghraifft, wedi profi i fod yn wahanfur diwylliannol mewn gwerthoedd a hunaniaeth sydd gryn dipyn yn fwy arwyddocaol na bod ar y chwith neu’r dde.

I bobl fel y Corbynistas, fodd bynnag, mae daliadau ‘asgell chwith’ yn llawer mwy na diffiniad o safbwyntiau gwleidyddol – mae’r ‘Chwith’ yn rhyw fath o achos ynddo’i hun, yn grwsâd hyd yn oed. Fel llawer o sectau crefyddol ffwndamentalaidd, mae eu gwleidyddiaeth yn seiliedig ar gred mewn gwrthdaro parhaus rhwng y da a’r drwg. Mae’r ‘Chwith’ yn rhan o’u hunaniaeth wleidyddol, sy’n aml yn cynnwys awydd parhaus i ddangos pa mor ddigyfaddawd ydyn nhw yn eu ideoleg.

Llanast gwleidyddol

Wrth gwrs, dydi’r carfannau hyn ddim yn agos mor beryglus â’r hyn mae papurau fel y Sun a’r Daily Mail neu’r Daily Express yn ei honni. Yn wir, mae cyfran helaeth o’u polisïau unigol, a’u hamcanion o gymdeithas llai anghyfartal yn gwbl synhwyrol a chymeradwy.

Er hynny, mae’n rhaid i’r garfan sydd wedi rheoli’r brif wrthblaid wleidyddol ysgwyddo cyfran helaeth o’r bai am y llanast gwleidyddol rydan ni ynddo heddiw.

Mae dau reswm sylfaenol pam nad ydi’r ‘Chwith’ yn ddim ond rhwystr i wleidyddiaeth flaengar:

  • Mae’r ddelwedd o eithafiaeth asgell chwith yn un gwbl ‘toxic’ yn wleidyddol, sy’n lleihau unrhyw siawns o lwyddiant etholiadol
  • Amharodrwydd hunan-gyfiawn ar ran llawer o ddilynwyr y Chwith i gydweithio ag eraill – boed y rheini o fewn eu plaid eu hunain neu bleidiau eraill – i drechu Boris Johnson a’i giwed.

Yr hyn mae’r ‘Chwith’ yn gyndyn o’i gydnabod ydi nad oes ganddyn nhw fonopoli ar gredu mewn amcanion clodwiw fel cymdeithas decach, dinasyddiaeth fyd-eang a chyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd. Mae modd gweithredu’n llawer mwy effeithiol dros yr amcanion hyn heb deimlo’r angen i gredu mewn rhyfel dosbarth neu siarad lol diystyr am ‘ddymchwel cyfalafiaeth’.

Does dim amheuaeth y gallai Boris Johnson fod wedi cael ei drechu’r mis diwethaf pe bai rhywun hanner call yn arwain y Blaid Lafur. Ac y byddai Brexit wedi cael ei lastwreiddio a’i liniaru – neu hyd yn oed ei ohirio am gyfnod amhenodol.

Yn lle hynny, mae’n amlwg fod carfannau’r Chwith yn defnyddio Brexit fel esgus dros golli’r etholiad er mwyn cuddio’r ffaith fod y math o wleidyddiaeth mae Jeremy Corbyn yn ei gynrychioli hefyd yn eu gwneud yn anetholadwy.

Colli adnabod

Beirniadaeth a glywir yn aml am y Blaid Lafur ydi eu bod nhw wedi colli adnabod ar eu hardaloedd traddodiadol. Mae hyn yn hollol wir, ond mae’n broblem fwy difrifol sy’n gofyn am atebion mwy cymhleth nag sy’n cael eu hawgrymu gan y mwyafrif o’i gwleidyddion.

Mae gwleidyddiaeth flaengar yn dibynnu mwy bellach ar gydwybod gymdeithasol ac ar werthoedd gwâr nag y mae hi ar frwydr rhwng gwahanol garfannau economaidd-gymdeithasol dros eu buddiannau. Mae cefnogaeth i fesurau i greu cymdeithas decach mor debygol o ddod gan bobl sy’n gyffyrddus eu byd â chan garfannau a allai elwa fwyaf ar newidiadau o’r fath.

Mae llawer ar y Chwith fodd bynnag yn dal i ramantu bod cymunedau ôl-ddiwydiannol yn llawn sosialwyr pybyr sy’n rhannu eu hamcanion a’u gwerthoedd.

Mae hyn wedi bod yn amlwg dros y tair blynedd ddiwethaf yn yr esgusodion truenus maen nhw wedi eu cynnig pam fod cymaint o dlodion wedi cefnogi Brexit. Rhyw fath o brotest yn erbyn llywodraeth David Cameron, yn erbyn ‘llymder’, galwad am help, galwad am newid ydi’r esboniad. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae union yr un bobl yn dangos eu ‘protest’ yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol drwy gefnogi Boris Johnson. A thanseilio damcaniaethau o’r fath yn llwyr wrth wneud hynny.

Nes at y gwir ydi bod agweddau cenedlaetholgar Seisnig a theyrngarwch eithafol at y wladwriaeth mor gyffredin ymhlith darllenwyr y Sun â darllenwyr y Telegraph. Mi allwn fod yn sicr hefyd y bydd digonedd o dir cyffredin mewn agweddau at bynciau eraill hefyd, o ddifaterwch at yr amgylchedd i roi cymorth i wledydd tlawd.

Mae’n ddealladwy fod Llafur yn daer dros adennill unrhyw gefnogaeth y gall. Ond mae’n amheus iawn mai gan gefnogwyr Brexit mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol y daw gwaredigaeth.

Rywsut neu’i gilydd rhaid fydd creu cynghreiriau newydd rhwng gwahanol bleidiau a mudiadau os am drechu’r lleiafrif diegwyddor a di-hid sy’n ein llywodraethu. Y dewis mawr i ddilynwyr y Chwith fydd naill ai ymuno mewn cynghreiriau newydd o’r fath i greu cymdeithas well, neu ddal ati i fod yn rhwystr a niwsans gwleidyddol.