Mae galwad Guto Bebb heddiw am refferendwm o’r newydd ar Brexit yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu.

Mae’r galwadau cynyddol am refferendwm arall yn ddatblygiad calonogol, am sawl rheswm.  O lwyddo, mi fydden nhw’n rhoi un cyfle arall i rwystro’r gwallgofrwydd sy’n cael ei gyflawni gan y Llywodraeth yn ein henw. Yn ogystal, mae’r syniad o bleidlais arall yn rhoi ias o ofn i gefnogwyr Brexit. Hefyd, mae ymgyrch o’r fath o leiaf yn help i hau mwy o amheuon am ddilysrwydd refferendwm 2016, cadarnhau’r  graddau mae pobl wedi cael eu twyllo a meithrin mwy o ddrwg deimlad yn erbyn y Sefydliad.

Mae galwad o’r fath gan un a oedd yn weinidog yn y Llywodraeth tan lai na deufis yn ôl yn tanlinellu’r rhwygiadau chwerw sydd yn rhengoedd y Torïaid ar hyn o bryd.

Go brin y bydd ei sylwadau heddiw yn cyfrannu at dawelu’r rhyfel agored rhyngddo â rhai o ffigurau amlwg ei blaid yn y gogledd, yn enwedig yr arch-Brexitiwr David Jones, AS Gorllewin Clwyd.

Diddorol yw cofio i Guto Bebb adael Plaid Cymru flynyddoedd yn ôl ar adeg pan oedd wedi anghytuno’n chwyrn â’r hyn oedd yn ei weld fel gor-frwdfrydedd tuag yr Undeb Ewropeaidd o fewn y blaid honno.

Eironig yn wir yw sylwi ei fod heddiw yn fwy diamwys nag arweinydd presennol Plaid Cymru yn ei gefnogaeth i refferendwm a allai rwystro Brexit.

Pwnc trafod

Mae Brexit yn sicr o fod yn bwnc trafod yn rhengoedd Plaid Cymru dros yr wythnosau nesaf wrth i’w haelodau ddewis arweinydd. Efallai hefyd y bydd yn amlygu gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y tri ymgeisydd o ran sut maen nhw’n gweld y ffordd ymlaen.

Y drwg yn aml gydag etholiadau am arweinwyr pleidiau yw bod yr ymgeiswyr yn canolbwyntio ar ddweud y pethau maen nhw’n ei feddwl mae’r aelodau eisiau ei glywed.

Yn sicr, mi gafwyd hynny yn etholiad diweddar y Ceidwadwyr yng Nghymru, lle’r oedd Paul Davies a Suzy Davies yn gweld yr angen i ddweud eu bod nhw’n cefnogi Brexit bellach, er bod y diffyg argyhoeddiad yn weddol amlwg.

Yn yr un modd, mae tri ymgeisydd Plaid Cymru hefyd yn ceisio rhoi’r argraff y byddan nhw rywsut yn gallu ennill annibyniaeth i Gymru. Diddorol fyddai dyfalu faint o aelodau Plaid Cymru sy’n coelio addewidion gwag o’r fath.

Gwell a dewrach fyddai dangos rhywfaint o onestrwydd a chydnabod realiti’r Gymru sydd ohoni. Mae ei demograffeg a natur hunaniaeth trwch ei phoblogaeth yn golygu y byddai ennill annibyniaeth y tu hwnt i allu yr huotlaf o’i harweinwyr posibl ar hyn o bryd.

Annibyniaeth barn

Waeth heb â meddwl annibyniaeth gyfansoddiadol cyn yn gyntaf feithrin llawer iawn iawn mwy o annibyniaeth barn yng Nghymru.

A’r cam cyntaf at feithrin annibyniaeth barn mwy Cymreig ydi trwy gollfarnu’n gyson y cenedlaetholdeb Seisnig afiach, rhagfarnllyd sydd wedi bod yn nodwedd mor greiddiol o gefnogwyr Brexit.

Mae’r achos economaidd dros drio rhwystro Brexit yn gwbl amlwg.

Lawn cyn bwysiced ydi herio’r meddylfryd sydd wedi arwain ato, gan ei fod yn feddylfryd sy’n fygythiad uniongyrchol i’n hunaniaeth.

Yr hyn a ddangosodd refferendwm 2016 oedd mor wan oedd yr annibyniaeth barn yma, wrth i gymoedd ôl-ddiwydiannol y de bleidleisio mor debyg i rannau helaeth o ogledd Lloegr. Mae ymchwil gan Richard Wyn Jones ac eraill wedi dangos y berthynas glir rhwng ymdeimlad o hunaniaeth Brydeinig neu Seisnig yng Nghymru a graddau’r gefnogaeth i Brexit. Yn yr un modd, roedd cefnogaeth gref dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd ymysg y rhai ag ymwybyddiaeth Gymreig gref, ac yn enwedig ymysg siaradwyr Cymraeg.

Mae’r cysylltiad diwylliannol yma’n arbennig o amlwg pan sylwn ar y graddau mae Brexit yn cael ei yrru gan hunan-gred cryn lawer o Saeson – er nad pawb o bell ffordd wrth gwrs – eu bod nhw’n well na phobl eraill.

Yr unig ffordd o ail-danio brwdfrydedd yn y mudiad cenedlaethol ydi trwy ysbrydoli’r Cymry bod ganddyn nhw werthoedd amgenach na’r rhai sy’n cael eu harddel gan y Sefydliad Seisnig.

Mi allai brwydro penderfynol yn erbyn Brexit wneud llawer mwy dros ein hunaniaeth a’n annibyniaeth barn nag unrhyw hunan-dwyll am annibyniaeth gyfansoddiadol sydd mor amlwg allan o’n cyrraedd ar hyn o bryd.