Os bydd etholiadau’r Senedd yn digwydd fis Mai, mi fyddai llawer yn fodlon rhoi eu harian – ar hyn o bryd – ar fuddugoliaeth i’r Blaid Lafur a Mark Drakeford.

Er gwaetha’ ambell gamgymeriad ac arwydd o wendid, mae’r Llywodraeth yn cael y clod am ddelio’n gall a chytbwys efo argyfwng y feirws. Digon, meddai rhai, i ennill.