Roedd y Twitter-sffêr ar dân ar ddechrau’r wythnos gydag ymatebion i sylwadau gan yr arweinydd yn San Steffan.

Mi gynhaliodd Boris Johnson gyfarfod Zoom ddydd Llun gydag Aelodau Seneddol gogledd Lloegr.

Ac yn ystod y sesiwn, yn ôl gwefan The Sun, mi ddywedodd bod “datganoli wedi bod yn drychineb” yn yr Alban.