Mae’n hynod o anodd barnu pa mor sâl ydi Donald Trump mewn gwirionedd.

Roedd i’w weld yn ddigon iach yn cerdded i’r hofrennydd nos Wener. Ar ôl ei holl gelwyddau, allwn ni ddim anwybyddu’r posibilrwydd ei fod yn ffugio salwch fel un cyfle arall i wella’i ragolygon o ennill etholiad.

Mae’n wir y byddai’n anodd dychmygu y byddai’n gwneud hyn oni bai ei fod yn teimlo fod popeth arall yn methu. Ac wrth gwrs, does dim sicrwydd o gwbl y byddai ystryw o’r fath yn llwyddo, gan y byddai hyn yn tueddu i ddryllio’r ddelwedd ohono’i hun fel dyn nerthol a chryf.

Ond â chymryd ei fod yn sâl o ddifrif, beth fyddai oblygiadau hynny?

Yr hunllef gwaethaf o’r cwbl fyddai iddo fod yn ddigon sâl i ennyn cydymdeimlad, ond iddo wella’n ddigon da i barhau’r anfadwaith mae wedi’i gyflawni dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Mae’n gwbl bosibl hefyd, wrth gwrs, y bydd yn gor-ddweud ei salwch (neu ddweud celwydd llwyr) er mwyn rhoi’r argraff o wellâd gwyrthiol ymhen ychydig ddyddiau.

Mater eilradd

Mater eilradd, fodd bynnag, ydi pa mor iach neu glaf fydd o. Y peth pwysig ydi na fydd neb yn anghofio pa mor drychinebus i America ac i’r byd fyddai iddo gael ei ailethol.

Mi fyddai rhai yn dadlau mai mater i bobl America yn unig ydi ‘dewis’ eu harlywydd. Mae hyn yn llythrennol wir, wrth gwrs, yn yr ystyr mai dim ond ganddyn nhw mae pleidlais (er bod Trump yn gwneud ei orau i danseilio’r system honno hefyd). Ar yr un pryd, mae’r hyn sy’n digwydd yng ngwlad fwyaf pwerus y byd o’r pwysigrwydd mwyaf ac yn effeithio ar fywydau pobl ledled y byd.

Meddyliwn o ddifrif am yr hyn mae Donald Trump wedi’i wneud eisoes. Tynnu America allan o Sefydliad Iechyd y Byd – y WHO – a llesteirio’r ymdrech am gydweithrediad byd-eang yn erbyn y coronafeirws.

Tanseilio pob ymdrech fyd-eang i warchod yr amgylchedd trwy roi rhwydd hynt i gorfforaethau mawr reibio’r ddaear. Yn hyn o beth, mae’n ymdebygu i’r arlywydd Jair Bolsonaro yn Brasil, un arall a fu’n ddibris o beryglon y coronafeirws hyd nes iddo’i ddal ei hun. Ac o weld y tanau bwriadol mae Bolsonaro yn eu cynnau yn yr Amazon, a’i hil-laddiad o gymunedau brodorol ei wlad, trychineb o’r mwyaf ydi na chafodd hwnnw ddôs llawer cryfach o’r haint.

Does dim gobaith am drefn ryngwladol well tra bydd dihirod fel y rhain mewn sefyllfaoedd o’r fath rym.

Peryglu democratiaeth

America First ydi pregeth barhaus Donald Trump wrth hyrwyddo goruchafiaeth America a phlesio’i gefnogwyr trwy apelio at genedlaetholdeb naïf y rhai lleiaf dysgedig ohonyn nhw.

Mae’r hyn mae’n barod i’w wneud i’w wlad ei hun er hynny yr un mor ddinistriol.

Mae’n gwneud unrhyw beth all i ddwyn anfri ar y broses etholiadol ac yn dangos nad oes pen draw i’r hyn y byddai’n barod i’w wneud er mwyn aros mewn grym.

Yn waeth na dim, mae wedi swcro grwpiau o ffasgwyr treisgar, ac yn gwbl ddi-hid o’r ffordd mae’r rheini’n ymosod a lladd.

Cyn gwastraffu gronyn o gydymdeimlad tuag ato, allwn ni ond dychmygu’r gwawd y byddai’n ei daflu at Joe Biden pe bai hwnnw wedi dal yr haint.

Mae’n wir fod Joe Biden yn wleidyddol ddoeth yn peidio â disgyn i’r un lefel ac yn dymuno’n dda i Trump. Camgymeriad o’r mwyaf, fodd bynnag, fyddai i’r Democratiaid golli unrhyw gyfle i’w danseilio dros y mis nesaf.

Pan fo cymaint yn y fantol, disodli Trump fel arlywydd ydi’r unig beth sy’n cyfrif o hyn tan yr etholiad, pa bynnag ddulliau y bydd angen eu defnyddio er mwyn gwneud hynny.